Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD , CHARLES (bu f. 1698 ), o Faesllwch ym Maesyfed , sgwïer a henuriad Annibynnol ;

un o amddiffynwyr enw da Vavasor Powell yn yr Examen et Purgamen , 1654 , ac arwyddo’r Word for God , yr ymosodiad a wnaed ar Ddiffynwriaeth Cromwell yn 1655 . Ym mis Awst 1672 wele Henry Maurice yn dod heibio iddo i gael sgwrs, ac yn 1675 dyry Maurice enw Lloyd i lawr fel un o henuriaid eglwys Annibynnol Brycheiniog . Ef oedd un o’r ‘ Dissenters ,’ fel Richard Edwards o Nanhoron [q.v.] a Jenkin Jones o Gilgerran [q.v.] , a enwyd yn 1687 fel gwŷr tebyg o rwyddhau ffordd y declarasiwn newydd ar ryddid crefyddol, ond nid oes unrhyw brawf iddo gael ei rwydo gan ragrith y brenin . Yn union wedi dyfod Deddf Goddefiad i rym yn 1689 , penderfynodd Lloyd roddi darn o’i dir yn sir Faesyfed i godi capel arno, capel Maesyronnen , sef y capel cyntaf a godwyd gan yr Annibynwyr yng Nghymru . Yn niwedd ei oes syrthiodd i brofedigaeth gyda’r awdurdodau eglwysig yn Aberhonddu drwy briodi’r trydydd tro, â merch i frawd ei ail wraig; ond ni ddigwyddodd dim byd effeithiol, canys cyfeirir ati fel ‘my dear wife Anne ’ yn ei ewyllys olaf yn 1696 . Teifl yr ewyllys hon lawer o oleuni ar ei gysylltiadau priodasol (trwy’r ail a’r drydedd wraig) â theulu Piwritanaidd Watkinsiaid y Sheephouse , ond dim paham y gelwid ef am gyfnod yn ‘ Charles Lloyd of Gwernyfed ’: rhaid oedd aros am ysgrif Idris Davies yn Y Dysgedydd am 1939 , 339, cyn deall mai yn y ‘dower house’ yno y trigai gyda’i wraig gyntaf, gweddw un o’r meibion.

Yr oedd Charles Lloyd yn frawd i William Lloyd o’r Wernos ac i Walter Lloyd o’r Felindre , ill tri yn disgyn o Lwydiaid Crai a Cherrig Cadarn .



Daeth LEWIS LLOYD , mab Charles Lloyd , yn farsiandwr mawr yn Llundain , gan brynu tiroedd lawer ym Mrycheiniog a Maesyfed , a dal yn Anghydffurfiwr selog fel ei dad. Yr oedd yn un o brif sylfaenwyr y ‘ Congregational Fund ’ a sefydlwyd yn Llundain yn 1695 i gynorthwyo achosion gweiniaid yr enwad, ac yn niwedd ei oes dibynnid llawer arno gan y Dr. John Evans [q.v.] wrth adeiladu y ‘Lists’ Ymneilltuol . Yn ei ewyllys olaf ( 27 Mawrth 1714-5 ) dyry siars arbennig nad oedd neb, o’i deulu ef ei hun nac arall, i ymyrryd yn y dim lleiaf â’r tir y safai capel Maesyronnen arno, heb dalu dirwy drom a fyddai’n ddigon i godi capel newydd yn ei le. Bu f. yn 1717 , a phrofwyd ei ewyllys ar 21 Hydref y flwyddyn honno.

Ffynonellau:

  • Llawysgrif Harleian Manuscript yn yr Amgueddfa Brydeinig. 4181, ff. 129b, 130;
  • Cyfeirir at ddau argraffiad, gan E. B. Underhill, 1847, a Nathaniel Haycroft, 1865. Cyfeirir hefyd at Addenda B (tt. 511–9 yn arg. 1847) Add. B. 512;
  • Llawysgrif Rawlinson yn Llyfrgell Bodlean, Rhydychen. A. 139A, 155;
  • Y Cofiadur , 1946 , 1-63, passim;
  • Transactions of the Congregational Historical Society , 1901 ff , v, 134-48;
  • Llawysgrifau Garthewin yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (U.C.N.W.) 2182-4;
  • P.P.C. 145 Lort (ewyllys Charles Lloyd), P.P.C. 193 Whitfield (ewyllys Lewis Lloyd).

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

LLOYD , CHARLES (bu f. 1698 ; Bywg., 542)

gw. y Cofiadur 1958 , 5-6, 8, am y rhan bwysig a gymerodd ei fab Lewis Lloyd yng ngweithrediadau'r Congl. Fund Board .

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54