LLOYD-OWEN, DAVID CHARLES (1843 - 1925), meddyg llygaid

Enw: David Charles Lloyd-owen
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1925
Priod: Anna Lloyd-Owen (née Greene)
Rhiant: Sophia Owen (née Jeffries)
Rhiant: D. Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg llygaid
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 5 Medi 1843, mab y Parch D. Owen, gynt o Darowen, Sir Drefaldwyn, a'i wraig Sophia (Jeffries), Bridgnorth. Er na aned mohono yng Nghymru (eithr yng nghanolbarth Lloegr), yr oedd y Dr. Lloyd-Owen yn Gymro o waed a hawliai ei fod yn disgyn o hen deulu Cymreig Mathafarn, Sir Drefaldwyn. Cofrestrwyd ach y teulu ganddo yn y College of Heralds, Llundain; gweler hefyd NLW MS 6016F . Cafodd ei addysg feddygol yn y General Hospital, Birmingham, ac ym Mharis. Heblaw ennill y tystysgrifau meddygol arferol pasiodd yn M.D. (Birmingham). Dechreuodd wasnaethu fel meddyg yn y Birmingham Eye Hospital tua'r flwyddyn 1865, a chyn bo hir daeth yn un o arbenigwyr mwyaf adnabyddus Lloegr ac yn aelod o wahanol sefydliadau a chymdeithasau meddygol, yn enwedig rhai yn gysylltiol â thriniaeth y llygad. Cyhoeddodd lyfrau (e.e. The Function of Vision, a Pain in Eye Diseases), erthyglau, a nodiadau ar faterion yn ei faes arbennig ei hun. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes broffesiynol yn Birmingham.

Yr oedd ei gyswllt â Chymru yn glos iawn. Treuliodd lawer o'i oes yng Nghymru - yn enwedig yn Aberystwyth a Harlech. Yr oedd yn aelod o amryw gymdeithasau Cymreig (e.e. y ' Powysland Club '; cyfrannodd erthyglau i Montgomeryshire Collections, cylchgrawn y gymdeithas honno), a gohebai'n gyson â llu o Gymry amlwg ei gyfnod, yn enwedig y rheini a gymerai ddiddordeb yn ei astudiaethau arbennig ef ei hun, sef hanes cyffredinol a theuluol sir Drefaldwyn. Y mae'r llawysgrifau (NLW MS 5986-6023 yn awr) a ysgrifennodd neu a gasglodd yn ddangoseg i'w ddiddordebau Cymreig. Yn eu plith y mae copïau o gofrestri eglwysi a wnaethpwyd iddo gan Richard Bennett, a chopïau ysgrifenedig o dri llyfr gan ei hendaid, John Owen (1757 - 1829).

Priododd Anna, merch John Greene, M.R.C.S., Muxton, Sir Amwythig. Bu farw Ddydd Nadolig, 1925, yn ei gartref, Bron-y-graig, Harlech.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.