LLOYD, DAVID (1635 - 1692), bywgraffydd

Enw: David Lloyd
Dyddiad geni: 1635
Dyddiad marw: 1692
Rhiant: Hugh Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bywgraffydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John James Jones

Ganwyd 28 Medi, 1635, ym Mhant Mawr, Trawsfynydd, Sir Feirionnydd, mab Hugh Lloyd. Addysgwyd ef yn ysgol rydd Rhuthyn; aeth i Goleg Merton, Rhydychen, fel ' servitor ' yn 1653, a graddiodd yn B.A. o Goleg Oriel, Ionawr 1656-7. Gwnaed ef yn rheithor Ibstone, swydd Rhydychen, yn 1658, a derbyniodd y radd o M.A. yn 1659. Yr un flwyddyn ymddeolodd o'i reithoraeth ac aeth i Lundain i wasnaethu fel darllenydd yn y Charterhouse o dan y Dr. Timothy Thurscross. Yn 1663 carcharwyd ef am chwe mis am gyhoeddi llyfr o'r teitl The Countess of Bridgewater's Ghost. Ar ôl hynny gwnaed ef yn gaplan i'r esgob Barrow, Llanelwy, yr hwn a'i dyrchafodd i amryw swyddi, yn cynnwys canoniaeth. Yn 1671 daeth yn ficer Abergele, sir Ddinbych, ond y flwyddyn ddilynol newidiodd y fywoliaeth hon am ficeriaeth Llaneurgain (Northop), Sir y Fflint, lle'r oedd hefyd yn feistr yr ysgol rad, a'r un flwyddyn gwnaed ef yn rheithor Llanddulas, sir Ddinbych. Bu farw 16 Chwefror 1691-2, a chladdwyd yn Nhrawsfynydd. Cyhoeddwyd 10 o'i weithiau, ac y mae y rhain gan mwyaf yn ymwneud â hanes ei amserau o safbwynt un a gymerai ran plaid y brenin. Yn eu plith y mae'r llyfr Εἰκὼν Βασιλική, 1660, yn yr hwn yr ymgeisia Lloyd wneud dros Siarl II yr hyn a wnaeth llyfr arall o'r un teitl, a briodolir weithiau i John Gauden, dros Siarl I. Ond andwyir gwaith hanesyddol Lloyd gan ormodedd o ymbleidiaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.