LLOYD, DAVID (1724 - 1779), gweinidog Ariaidd

Enw: David Lloyd
Dyddiad geni: 1724
Dyddiad marw: 1779
Priod: Letitia Lloyd (née Lloyd)
Plentyn: Margaret Lloyd
Plentyn: Jenny Lloyd
Plentyn: David Lloyd
Plentyn: Charles Lloyd
Plentyn: John Lloyd
Plentyn: Richard Lloyd
Rhiant: Hester Lloyd (née Jones)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Ariaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd yng Nghoedlannau-fawr, Llanwenog. Hanoedd ei dad o David ap Llewelyn Lloyd, arglwydd Castell Hywel, Ceredigion, yntau o linach yr arglwydd Rhys. Ei fam oedd Hester, chwaer Jenkin Jones (1700? - 1742), Llwynrhydowen. Bu yn ysgol John Evans (1680 - 1741), Llanwenog. Ni bu yn academi Caerfyrddin, ond dywed Thomas Morgan iddo fod yn ysgol Samuel Thomas, Caerfyrddin, yn 1743, gydag ef (Cofiadur, 1923, 10). Dywedir ei apwyntio yn olynydd i'w ewythr yn Llwynrhydowen (1742-79), Alltyplaca (1742-79), Penrhiw (1756-79), a'r Ciliau (1769-79), ond ni ordeiniwyd mohono hyd 1745. Yr oedd yn bregethwr huawdl. Prydyddai yn Gymraeg, ac yr oedd yn feistr ar Ladin, Groeg, a Hebraeg, a siaradai Ffrangeg ac Eidaleg yn rhugl. Ni cheir nemor ddim ysgrifenedig ar ei ôl ar wahân i'w farddoniaeth, ei lythyrau, a nodiadau o'i bregethau yn un o ddyddiaduron Timothy Davis (NLW MS 5496D ). Oddi wrth un o'i lythyrau, dyddiedig 29 Mai 1767, cesglir mai Ariad oedd. Am dymor byr bu'n cadw ysgol, ond gwrthododd swydd athro yn academi Caerfyrddin. Bu'n briod ddwywaith - yn gyntaf yn 1752 â'i gyfnither, ac yn ail yn 1759 â Letitia Lloyd o Lanfechan, hithau'n disgyn fel yntau o arglwyddi Castell Hywel. Yr oedd iddo chwech o blant: Jenny (o'r wraig gyntaf), Richard (gweinidog y Llwyn), John (tad David Lloyd, Caerfyrddin), Margaret, y Dr. Charles Lloyd, a David, o'r ail wraig.

' David Lloyd Brynllefrith ' oedd yr athrylith grefyddol bennaf a'r dylanwad mwyaf o blaid crefydd rydd yng Ngheredigion, onid yng Nghymru gyfan; ym marn yr arglwydd Aberdâr (Ymofynnydd, 1946, 83) 'ef oedd yr unig Gymro hyd ei ddydd a enillodd glod Ewropaidd.' Bu farw 4 Chwefror 1779 yn 55 mlwydd oed a gorwedd ym mynwent eglwys Llanwenog. Ei weithiau yw ei lythyrau i'w frawd (Lloyd Letters), Hymnau a Chaniadau o waith Jenkin Jones wedi'u golygu ganddo, 1768, Gwaith Prydyddawl Dafydd Llwyd, 1785.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.