LLOYD (FLOYD, FLOOD, FLOUD, neu FLUDD), EDWARD (c. 1570 - 1648?), Llwyn-y-maen, gerllaw Croesoswallt,

Enw: Edward Lloyd
Dyddiad geni: c. 1570
Dyddiad marw: 1648?
Plentyn: Richard Lloyd
Rhiant: Richard Lloyd
Rhyw: Gwryw
Cartref: Llwyn-y-maen
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Arthur Herbert Dodd

aelod o nifer o deuluoedd o hen dras Cymreig yng ngogledd-ddwyrain Powys (ac yn perthyn yn agos i'w gilydd) a oedd yn wrthwynebol i'r Diwygiad Protestannaidd. Bu ei hen gyndad, MEURIG LLWYD, y gŵr y cafwyd ŷ cyfenw oddi wrtho, yn ymladd yn y rhyfeloedd yn Ffrainc yn rhan olaf y Canol Oesoedd; cafodd ef Lwyn-y-maen trwy briodi aeres llinach Einion Efell (bu farw 1196) o'r lle hwnnw - blaguryn anghyfreithlon o linach hen dywysogion Powys. Achwynasid yn 1575 yn erbyn RICHARD LLOYD (bu farw 1601), tad Edward Lloyd, a dywedyd ei fod yn derbyn negeseuau dirgel oddi wrth Hugh Owen (1538 - 1618), Plas Du, Sir Gaernarfon, pan ffodd hwnnw dros y môr ar ôl y ' Ridolfi Plot '; yr oedd yn Babydd cydnabyddedig yn 1588. Derbyniwyd Edward i'r Inner Temple yn 1585; erbyn 1592 fe'i cyplysid ef a'i dad fel Pabyddion, eithr ni bu i hynny ei luddias rhag gweithredu fel bargyfreithiwr gerbron cyngor y goror yn Llwydlo na rhag dal y swydd o stiward yn Sir Amwythig dros yr arglwydd-ganghellor Ellesmere a thros Thomas Howard, iarll Suffolk. Pan symudwyd ei noddwr, yr arglwydd ganghellor, yn 1617, yr oedd ei safle yn llai sicr, ac ym mis Gorffennaf 1619 daeth i helynt am hyrwyddo petisiwn i roddi swydd Syr Francis Eure fel barnwr ar gylchdaith Gogledd Cymru i Rowland Baugh, a oedd yn perthyn, fel Lloyd ei hunan, i'r Inner Temple - maentumid fod priodas Eure ag ŵyres Syr William Maurice, Clenennau, priodas a oedd felly o fewn cylch ei gylchdaith, yn groes i'r Ddeddf Uno. Ar arch y Cyfrin Gyngor rhoddwyd Lloyd yng ngharchar, yn Nhŵr Llundain ac wedyn yn y ' Fleet,' ac ni ddaeth y gorchymyn terfynol i'w ollwng yn rhydd hyd ddiwedd 1620. Yn y cyfamser hysbyswyd iddo ddatgan, mewn modd agored ac annoeth, ei lawenydd o glywed i fab-yng-nghyfraith Protestannaidd y brenin, ' brenin Bohemia,' gael ei orchfygu yn Bohemia ym mis Tachwedd, a bu dadlau brwd o'i blegid yn Nhŷr Cyffredin y mis Mai dilynol; yr oedd aelodau'r Tŷ (a'r aelodau o Gymru yn eu plith) yn benderfynol o geisio cael iddynt eu hunain ryw fodd i gosbi Lloyd, eithr gwnaeth hwnnw apêl at y brenin, a roes y mater i'w ystyried gan yr Arglwyddi. Ganddynt hwy dedfrydwyd Lloyd i'r rhigod ac i gael dodi nodau llosg arno, ei ddirwyo, a'i ddiraddio fel na châi ei alw ei hun yn fonheddwr mwy. Ni ryddhawyd mohono yn gyfan gwbl hyd fis Gorffennaf, ac ni chafodd ei bapurau yn ôl hyd fis Rhagfyr. Ni allai obeithio cael ailgychwyn ar ei waith fel bargyfreithiwr ac nid oes sôn amdano mwyach oddieithr rhyw adroddiad ansicr am ei farw ym mis Gorffennaf 1648. Bu ei fab, RICHARD LLOYD (a fu farw yn 1663), yn ymladd fel cyrnol ym myddin y brenin, ac yr oedd yn rheolwr Croesoswallt dros y brenin yn y Rhyfel Cartrefol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.