LLOYD, EVAN (1734 - 1776), clerigwr ac awdur

Enw: Evan Lloyd
Dyddiad geni: 1734
Dyddiad marw: 1776
Rhiant: Bridget Lloyd (née Bevan)
Rhiant: John Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Cecil John Layton Price

Ganwyd 15 Ebrill 1734, ail fab John Lloyd a Bridget Bevan, Fron Dderw, Bala. Cafodd ei addysg yn ysgol Rhuthyn a Choleg Iesu, Rhydychen (ymaelodi 22 Mawrth, 1750/1, B.A. 1754, M.A. 1757). Bu'n gurad S. Mary, Redriff, hyd 1763, pryd y daeth yn ficer segur Llanfair Dyffryn Clwyd. Bu farw'n ddibriod 26 Ionawr 1776; claddwyd ym meddrod ei deulu yn Llanycil. Cyhoeddodd amryw ddychangerddi ffraeth - The Powers of the Pen (London, 1766), The Curate (London, 1766), The Methodist (London, 1766; Conversation (London, 1767). Credid mai William Price, Rhiwlas, gerllaw'r Bala, oedd y ' Libidinoso ' a ddisgrifid yn The Methodist, a dug Price gyngaws am athrod yn erbyn yr awdur. Gorfodwyd Lloyd i dreulio pythefnos yng ngharchar y King's Bench, Llundain, a dirwywyd ef i'r swm o £50 ar 16 Mai 1768. Enillodd ffraethineb yr awdur gyfeillgarwch John Wilkes a David Garrick iddo; ysgrifennodd An Epistle to David Garrick (London, 1773). Gwawdiwyd Lloyd gan ' Scriblerius Flagellarius ' (William Kenrick ?) yn A Whipping for the Welsh Parson (London, 1773).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.