LLOYD, HANNIBAL EVANS (1771 - 1847), awdur a chyfieithydd

Enw: Hannibal Evans Lloyd
Dyddiad geni: 1771
Dyddiad marw: 1847
Priod: Lloyd (née von Schwartzkopff)
Rhiant: Henry Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn Llundain, yn fab i Henry Lloyd o Gwmbychan, fferm ym mhlwyf Llanbedr, Sir Feirionnydd. Yr oedd ei fam yn un o ddisgynyddion Garnetts sir Efrog. Collodd ei rieni pan oedd yn ieuanc, a magwyd ef gan berthnasau. Yn 1800 ymsefydlodd yn Hamburg yn yr Almaen, ac yn ddiweddarach ymladdodd yn amddiffyniad y ddinas honno yn erbyn y Ffrancwyr. Dychwelodd i Loegr yng Ngorffennaf 1813 ac apwyntiwyd ef i swydd yn y swyddfa dramor. Bu yno hyd ei farw. Priodasai Fraülein von Schwartzkopff, Hamburg. Bu farw 15 Gorffennaf 1847. Yr oedd yn ieithydd medrus ac yn ysgolhaig da. Efe oedd awdur Hamburg or … Transactions which took place in that city during the first six months of 1813; Alexander I, Emperor of Russia or Sketch of his Life; George IV, Memoirs of his Life and Reign; Descriptive and Historical Illustrations in English and French to accompany J. Coney's Architectural Beauties of Europe; Descriptive and Historical Illustrations to accompany J. M. W. Turner's Picturesque Views in England and Wales; Theoretischpraktische Englische Sprachlehre fur Deutsche, English and German Dialogues. Golygodd a diwygiodd nifer mawr o weithiau hanesyddol a ieithyddol, a chyfieithodd lawer o lyfrau hanesyddol a theithiol yn Saesneg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.