LLOYD, HUGH (1546 - 1601), prifathro Ysgol Winchester

Enw: Hugh Lloyd
Dyddiad geni: 1546
Dyddiad marw: 1601
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prifathro Ysgol Winchester
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: John James Jones

Ganwyd 1546 yn Llŷn, aeth i Gaerwynt yn y flwyddyn 1560 ac i New College, Rhydychen, lle y gwnaethpwyd ef yn gymrawd ar brawf, 5 Ionawr 1562, a chymrawd parhaol, 1564 (B.A. 1566, B.C.L. 1570, a D.C.L. 1588). Daeth yn ganghellor Rochester, 1578, ficer Charlbury, sir Rydychen, 1579, a phrifathro Caerwynt o 1580 hyd 1587 - un o lawer o Gymry'r cyfnod a oedd yn ysgolfeistri yn Lloegr. Penodwyd ef yn brebendari eglwys gadeiriol S. Paul, 12 Tachwedd 1584, a rheithor Islip, ger Rhydychen, 1588. Ysgrifennodd Phrases elegantiores ex Caesaris Commentariis, Cicerone, aliisque, in usum Scholae Winton (Oxford, 1654). Bu farw 19 Hydref 1601, a chladdwyd ef yng nghapel allanol New College, Rhydychen.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.