LLOYD (FLOYD), JOHN (1480 - 1523), cerddor

Enw: John Lloyd
Dyddiad geni: 1480
Dyddiad marw: 1523
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yng Nghaerllion-ar-Wysg. Y cyfeiriad cyntaf ato ydyw yn offeiriad y Capel Brenhinol yn 1505; penodwyd ef yn offeiriad eglwys plwyf Munslow, Hereford, 18 Medi 1506. Rhoddwyd awdurdod iddo ar 12 Tachwedd 1511 - dan yr enw ' John Lloyd, Gentleman of the Chapel Royal ' - i gael ' Black Chamelot Gown.' Yn rhestr swyddogion y Capel Brenhinol, 27 Chwefror 1518, cofnodir iddo dderbyn lifrai ar gyfer angladd y tywysog Harri. Cyfansoddodd lawer o gerddoriaeth eglwysig - yn offerennau a 'motets.' Ceir llawysgrif (Add. MS. 31922) o ddau ddarn o'i eiddo yn yr Amgueddfa Brydeinig. Cofnodir ei farw yn John Hawkins, History of Music, fel y canlyn: ' John Floyd of Welsh extraction, Bachelor of Music, and a gentleman of the Royal Chapel, Temp. Hy. VIII. He made a pilgrimage to Jerusalem, returned, and died in the King's Chapel, and was buried at the Savoy Church with the inscription - Johannes Floyd, Virtutis et religionis cultor. obiit 3 April 1523.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.