LLOYD, JOHN (1638 - 1687), pennaeth Coleg Iesu yn Rhydychen, ac esgob Tyddewi

Enw: John Lloyd
Dyddiad geni: 1638
Dyddiad marw: 1687
Rhiant: Morgan Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pennaeth Coleg Iesu yn Rhydychen, ac esgob Tyddewi
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Walter Thomas Morgan

mab Morgan Lloyd o Bendain, o un o hen deuluoedd Myrddin. Ymaelododd yng Ngholeg Merton, Rhydychen, 10 Mawrth 1656/7, graddiodd B.A. yn 1659, M.A. yn 1662, B.D. 15 Mawrth 1669/70, a D.D. yn 1674. Daeth yn gymrawd o Goleg Iesu yn fuan ar ôl yr Adferiad, ac ef oedd y cymrawd hynaf pan etholwyd ef yn bennaeth y coleg hwnnw yn 1673 fel olynydd i Syr Leoline Jenkins. Bu'n is-ganghellor y brifysgol, 1682-5. Gwnaed ef yn rheithor Llandawke, Sir Gaerfyrddin, yn 1668, Llangwm, Sir Benfro, 1671, a Burton, 1672. Penodwyd ef yn gantor eglwys gadeiriol Llandaf, 9 Ebrill 1672, ac yn drysorydd 10 Mai 1679. Cysegrwyd ef yn esgob Tyddewi yn Lambeth 17 Hydref 1686 gyda'r hawl i gadw Llandawke a Burton 'in commendam.' Yr oedd ar y pryd yn wael ei iechyd, ac o'i anfodd y derbyniodd ei ddyrchafiad. Bu farw yng Ngholeg Iesu, 13 Chwefror 1686/7, a chladdwyd ef yn y capel yno. Yn ôl pob tebyg nid ymwelodd erioed â'i esgobaeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.