Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD , JOHN ( 1733 - 1793 ), clerigwr a hynafiaethydd .

Ganwyd yn 1733 (bedyddiwyd 26 Mawrth ) yn Llanarmon-yn-Iâl , yn fab i John Lloyd (a fu f. 1756 ) o Fodidris a'i wraig Elizabeth ( Jones ) (a fu f. 1768 ) o'r Gerddi Duon , yr Wyddgrug . Ni ddylid cymryd yn ganiataol mai cainc oedd hon o hen deulu Lloyd o Fodidris ; yr oedd y tad yn fab i Richard Lloyd o'r Cwmbychan yn Ardudwy (a fu f. 1697 ), ac yr oedd yr hynafiaethydd felly'n gefnder i Evan Lloyd , Cwmbychan , yr hen uchelwr Cymreigaidd y bu Pennant a John Lloyd yn ymweld ag ef ( Tours in Wales , arg. 1883 , ii, 268); yn ôl Philip Yorke ( Royal Tribes of Wales , arg. 1887 , 111) yr oedd John Lloyd y tad wedi plwyfo yn Llanarmon ‘yn gynnar yn y 18fed g. ’ — chwanega Yorke y llysenwid John Lloyd , ieu. , yn ei fachgendod, yn ‘ Blodeu, or flower of Llanarmon .’ Ymaelododd yn Rhydychen (o Goleg Iesu ) yng Ngorffennaf 1753 , a graddiodd yn 1757 ( Foster , Alumni Oxon. ); yr oedd wedi ei urddo eisoes, yn 1756 , pan drwyddedwyd ef yn gurad yn ‘ Llanasaph .’ Yn 1761 cawn ef yn gurad yng Nghaerwys . Penodwyd ef yn 1774 yn rheithor Nannerch , ond daliai i fyw yng Nghaerwys , gan gadw curad yn Nannerch hyd 1778 , pan roddwyd rheithoraeth Nannerch i wr arall ( Thos. , S. Asaph , ii, 421), a'i benodi yntau'n rheithor Caerwys (op. cit., ii, 12). Bu f. 22 Mai 1793 , a chladdwyd yng Nghaerwys . Ei wraig ( 1769 ) oedd Martha (bu f. 1810 ), ferch Francis Williams ; o'u hamryw blant, y mae'n rhaid enwi Angharad Llwyd a hefyd Llewelyn Lloyd ( 1770 - 1841 ), a fu'n rheithor Nannerch ( Thos. , op. cit., ii, 422) o 1810 hyd 1841 .

Ystyrid John Lloyd o Gaerwys yn gryn ysgolhaig yn ei ddydd. Bu ganddo law yn y paratoadau at gyhoeddi'r Myvyrian Archaiology ; yr oedd yn gyfaill i Philip Yorke ; cydnebydd Warrington help a gafwyd ganddo at ei Hist. of Wales ; a geilw Pennant ef ( Tours , rhagymadrodd) ‘ my worthy and constant attendant in all my excursions .’

Gan i'r John Lloyd hwn gael ei uniaethu ar gam â chynifer a thri o glerigwyr eraill, bydd yn hwylus nodi'r rheini:



(1) JOHN LLOYD ( 1733 - 1814 ),

mab Critchley Lloyd o Landysilio-yn-Iâl a'i wraig Anne Thelwall o Flaen-Iâl ; bu yntau yng Ngholeg Iesu , a gelwir ef yn B.A. , er na ddywed Foster iddo raddio. Bu hwn yn gurad Llandegla , ac yn rheithor Betws Gwerfyl Goch , 1766-94 ( Thos. , op. cit., ii. 12); yn 1794 , dilynodd ei gyfenw yr hynafiaethydd yn rheithoraeth Caerwys ; y mae cofnod o'i farw yn rhifyn Mai 1814 (523) o'r Gentleman's Magazine . Nid annaturiol fu i Lyfryddiaeth y Cymry (636) ei gamgymryd am ei ragflaenydd.


(2) JOHN LLOYD ( 1754 - 1807? ),

mab William Lloyd , ysw. , o hen deulu yn Llansteffan , sir Gaerfyrddin . Aeth hwn hefyd i Goleg Iesu , yn 1758 ; graddiodd yn 1762 ( B.D. , 1772 ) — odid nad hwn yw'r ‘ Mr. Lloyd , o sir Gaerfyrddin ,’ a oedd (ymhlith llu o aelodau eraill Goleg Iesu ) yn aelod gohebol o'r Cymmrodorion yn 1762 . Ni ddywed Foster iddo gael cymrodoriaeth yn ei goleg; ond yn ôl Hardy ( Jesus College , 243), yr oedd ‘ John Lloyd , Carm. ’, yn gymrawd o 1765 hyd 1773 . Penodwyd ef yn 1773 yn ficer Treffynnon ( Pennant , Hist. of Whiteford and Holywell , 236; Thos. , S. Asaph , ii, 196) ac yn 1782 ( Thos. , op. cit., ii, 371) yn ficer Cilcain hefyd. Dywed Foster iddo f. yn 1803 , ond nid yw Thomas yn nodi penodiad olynydd iddo yn yr un o'r ddau blwyf hyd 1807 — felly hefyd Simpson , Cilcain and its Parish Church , 57. Enw. F. sy'n cymysgu hwn â John Lloyd yr hynafiaethydd .


(3) JOHN LLOYD

(pwy bynnag oedd), a oedd yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn 1780 ( Thos. , S. Asaph , ii, 230). Enw. F. a aeth ar gam yma eto.

Ar ben hyn oll, dywed M. O. Jones ( Byw. Cerdd. Cymr. ) fod ‘ John Lloyd o Gaerwys , cyfaill Pennant ,’ yn fab i John Lloyd (a fu f. 1764 ), telynor enwog ym Meirionnydd yn hanner cyntaf y 18fed g. , a symudodd i fyw i'r Aelwyd Ucha , Llanarmon-yn-Iâl . Ond tystia'r cofnodion eglwysig mai ym Modidris yr oedd John Lloyd , tad yr hynafiaethydd , yn byw, ac iddo f. yn 1756 .

Ffynonellau:

  • Heblaw'r ffynonellau a nodwyd, defnyddiwyd copïau o recordiau esgobaeth Llanelwy, a gafwyd trwy garedigrwydd Mr. E. D. Jones , o'r Llyfrgell Genedlaethol.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54