Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD (TEULU), Maesyfelin , sir Aberteifi ,



Syr MARMADUKE LLOYD ( 1585 - 1651? )

oedd y cyntaf o’r llinach i ymsefydlu yn Maesyfelin (neu Millfield ), gerllaw Llanbedr-pont-Steffan , sir Aberteifi ; g. 1585 , mab ac aer Thomas Lloyd , cantor a thrysorydd eglwys gadeiriol Tyddewi , a nai Marmaduke Middleton , esgob Tyddewi . Aeth i Goleg Oriel , Rhydychen , 1599 , a graddio’n B.A. , 1603 . Ar 26 Mawrth 1604 aeth i’r Middle Temple , a derbyniwyd ef yn fargyfreithiwr ar 3 Tachwedd 1608 . Priododd Mary , ferch John Gwyn Stedman , Strata Florida , a bu iddynt dri mab a chwe merch. Yr oedd yn atwrnai’r brenin yng Nghymru a’r goror , 1614-22 , dewiswyd ef yn aelod o gyngor y goror ar 3 Rhagfyr 1614 , a gwnaethpwyd ef yn farchog ar 7 Ebrill 1622 . Bu’n gofiadur Aberhonddu , 1617-36 , is-farnwr cylchdaith Caer , 1622-36 , a phrif farnwr cylchdaith Brycheiniog , 1636-45 .

Yr oedd Syr Marmaduke yn Frenhinwr ffyddlon, a phan gymerwyd Henffordd gan fyddin y Senedd , 18 Rhagfyr 1645 , cymerwyd yntau’n garcharor a’i gadw felly am dymor nes iddo, yn 1647 , dalu swm o arian am ei stad. Ceir ei enw hefyd yn rhestr carcharorion a gymerwyd gan y cyrnol Horton pan orchfygwyd un o luoedd y brenin yn Sain Ffagan , sir Forgannwg , 8 Mai 1648 . Yr oedd yn gyfeillgar â Rhys Prichard , ficer Llanymddyfri [q.v.] . Yr oedd yn fyw ym mis Mawrth 1650 , eithr profwyd ei ewyllys ar 8 Tachwedd 1651 .



Dilynwyd Syr Marmaduke gan ei fab hynaf, FRANCIS LLOYD . Ni wyddys ym mha flwyddyn y g. ef. Priododd (1), Mary , merch John Vaughan , iarll Carberry ; a (2), Bridget , merch Richard Leigh , a fu’n faer Caerfyrddin yn 1666 . Ganesid i Francis Lloyd a Bridget ddau fab, Lucius a Charles , pan oedd y wraig gyntaf eto’n fyw. Bu’n aelod seneddol dros Gaerfyrddin o 9 Mawrth 1640 hyd y ‘rhwystrwyd’ ef i eistedd, sef ar 5 Chwefror 1644 . Yr oedd yntau, fel ei dad, yn Frenhinwr . Bu’n ‘ Comptroller of the Household ’ i Siarl I , a gwnaethpwyd ef yn farchog , 24 Mawrth 1643 , yn Rhydychen . Yr oedd yn bennaeth y marchoglu dros y brenin yn sir Benfro ac yn un o benaethiaid byddin y brenin a ffodd ar ffrwst mawr o Hwlffordd cyn i’r dref honno gael ei chymryd gan y cyrnol Laugharne yn 1644 . Cymerwyd ef a’i dad yn garcharorion yn Henffordd ym mis Rhagfyr 1645 . Cytunodd, 24 Ionawr 1646 , i dalu iawn, eithr ymddengys iddo ymuno â byddin y brenin eilwaith a chymerwyd yntau, fel ei dad, yn garcharor ym mrwydr Sain Ffagan . Wedi’r Adferiad fe’i dewiswyd yn ‘ Gentleman of the Privy Chamber ’ i Siarl II . Bu f. yn 1669 , a chladdwyd ef yn Llanbedr-pont-Steffan .


Yr oedd gan Syr Marmaduke Lloyd ail fab, sef MARMADUKE LLOYD . Efe oedd tad FRANCIS LLOYD ( 1655 - 1704 ), Llwydlo a Cherrig-cadarn , sir Frycheiniog . Bu Francis Lloyd yn aelod seneddol dros Lwydlo , 1691-5 , yn atwrnai cyffredinol cylchdaith Morgannwg , Brycheiniog , a Maesyfed , 1689-95 , yn is-farnwr cylchdaith Môn , Caernarfon , a ‘ Meirionnydd , 1695-1701 , a chylchdaith Caerfyrddin , 1701-2 . O 1692 hyd ei farw yn 1704 efe oedd cofiadur Llwydlo .


Dilynwyd Syr Francis Lloyd yn ei stadau gan ei ail fab gordderch, Syr CHARLES LLOYD ( 1662 - 1723 ) — buasai Lucius f. yn ystod oes ei dad. Cafodd Charles Lloyd ei addysg yng Ngholeg Iesu , Rhydychen . Priododd (1), Jane , merch Morgan Lloyd , Greengrove , a bu iddo ddwy ferch o’r briodas hon; a (2), Frances , merch Syr Francis Cornwallis , Abermarlais , sir Gaerfyrddin . Cafwyd dau fab a phedair merch o’r ail briodas. Bu Charles Lloyd yn siryf sir Aberteifi , 1690 , a sir Gaerfyrddin , 1716 ; gwnaethpwyd ef yn farchog , 1693 , ac yn farwnig yn 1708 . Bu’n cynrychioli bwrdeisdrefi Aberteifi yn y Senedd , 1698-1701 . Bu f. 28 Rhagfyr 1723 a chladdwyd ef yn Llanbedr-pont-Steffan . Dilynwyd ef gan ei fab hynaf, Syr CHARLES LLOYD , yr ail farwnig . Priododd ef Jennings , Anderton , swydd Somerset . Bu f. 25 Chwefror 1729 yn 24 oed. Dilynwyd yntau gan ei frawd iau, Syr LUCIUS LLOYD , a briododd Anne , merch Walter Lloyd , Peterwell , gerllaw Llanbedr-pont-Steffan . Bu’n siryf sir Aberteifi yn 1746 . Gan iddo farw’n ddi-blant, 18 Ionawr 1750 , daeth llinach wrywol y teulu i’w therfyn ac aeth y stadau i feddiant teulu Lloyd , Peterwell [q.v.] .

Ffynonellau:

  • William Edmunds , On some old families in the neighbourhood of Lampeter, Cardiganshire read before the thirteenth annual meeting of the Cambrian Archaeological Association at Cardigan, 1859 (Dinbych, 1860) ;
  • W. R. Williams , (1) The history of the Great Sessions in Wales, 1542-1830 together with the lives of the Welsh judges, and annotated lists of the chamberlains and chancellors, attorney generals, and prothonotaries of the four circuits of Chester and Wales (Brecknock, 1899) , (2) The History of the Parliamentary Representation of Wales (1895) ;
  • L. E. Lloyd-Theakston and John Davies , Some family records & pedigrees of the Lloyds of Allt yr Odyn, Castell Hywel, Ffos y Bleiddiaid, Gilfach Wen, Llan Llyr and Waun Ifor (Rhydychen, 1912-1913) .

Awdur:

Major Herbert John Lloyd-Johnes, F.S.A., (1900-83), Trefynwy / Cirencester

Atodiadau a chywiriadau:

LLOYD (TEULU), Maesyfelin ( Bywg. , 540)

Unwaith yn unig y pr. FRANCIS LLOYD (m. 1669 ). Goroeswyd ef gan ei wraig, Mary (g. Vaughan ) . Bu hi f. yn S. Martin's in the Field ; profwyd ei hewyllys yn Llundain 31 Rhag. 1677 . Yr oedd Bridget Leigh yn fam i dri phlentyn Francis Lloyd (y ddau fab, a'i ferch, Frances ). Pr. Bridget wedi i Francis farw (a chyn 1676 ) ag un John Farrington .

Ffynonellau:

  • Dogfennau Ffynnonbedr yn LlGC.

Awdur:

Dr Mary Auronwy James, Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54