LLOYD (MOORE), MARGARET (1709 - 1762), un o aelodau gwreiddiol y gynulleidfa Forafaidd yn Llundain

Enw: Margaret Lloyd
Dyddiad geni: 1709
Dyddiad marw: 1762
Priod: Thomas Moore
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: un o aelodau gwreiddiol y gynulleidfa Forafaidd yn Llundain
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 27 Mai 1709, o deulu Llwydiaid Hendrewaelod a Llangystennin (cofysgrifau yn eglwys Llangystennin); bu ei brawd ROBERT LLOYD (1707 - 1753) yn rheithor Aber. Wedi ymdreiglo i Lundain, ymunodd â'r Wesleaid, ond yn 1740 daeth dan ddylanwad y Morafiaid, ac yn 1741 rhoes ei holl amser i fod yn ' Helper ' gyda hwy. Yn 1743, fe'i hanfonwyd i Yorkshire i arolygu'r gwaith Morafaidd ymhlith y 'chwiorydd dibriod'; yno, 27 Awst 1744, priododd Thomas Moore. Gwrthryfelodd y ddeuddyn yn erbyn yr unbennaeth Almaenaidd a lywodraethai'r genhadaeth Forafaidd yn Yorkshire, a diswyddwyd hwy - ymhellach ymlaen, cefnasant ar Eglwys y Brodyr, ond yn y diwedd dychwelasant ati. Bu farw yn Leeds, 8 Medi 1762, a'i chladdu yn erw'r Brodyr yn Fulneck.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.