Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD , MORGAN ( 1820 - 1893 ), bargyfreithiwr a gwleidydd

g. yng Nghefngellgwm , Trawsfynydd , 14 Gorffennaf 1820 , mab Morris Lloyd , amaethwr . Dywedir fod y teulu yn gangen o deulu Llwydiaid Cynfal . Ar y cychwyn bwriadai Morgan Lloyd fod yn fesurydd tir , a bu'n cynorthwyo John Matthews [q.v.] i fapio plwyf Trawsfynydd yn 1839 . Ar ôl hynny aeth i Goleg y Methodistiaid Calfinaidd , y Bala , ac oddi yno i Brifysgol Edinburgh . Penderfynodd fyned yn fargyfreithiwr , ymaelododd yn y Middle Temple yn Llundain , a galwyd ef at y Bar yn Ionawr 1847 . Ymunodd â chylchdaith Caer a Gogledd Cymru , a daeth i fusnes mawr yn fuan; ystyrid ef yn neilltuol fedrus fel dadleuydd dros yr amddiffyniad , ac yn ei apel at reithwyr. Am amryw flynyddoedd yr oedd yn un o ddadleuwyr blaenaf y gylchdaith. Gwnaed ef yn Q.C. yn 1873 , ac etholwyd ef yn ‘ Bencher ’ yn y Middle Temple yn 1875 . Ysgrifennodd ar faterion cyfreithiol , ac ef oedd awdur The Law and Practice of the County Courts . Yn 1868 bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol aflwyddiannus yn etholaeth bwrdeisdrefi Môn , ond yn 1874 llwyddodd i ennill y sedd a bu'n ei chynrychioli hyd 1885 , pan unwyd y bwrdeisdrefi ag etholaeth y sir. Yn y flwyddyn honno bu Morgan Lloyd yn ymgeisydd Rhyddfrydol answyddogol ym Meirion ; rhannodd ei ymgeisiaeth y gwersyll Rhyddfrydol , gan fod y Gymdeithas Ryddfrydol wedi dewis H. Robertson [q.v.] yn ymgeisydd swyddogol. Yr oedd W. R. M. Wynne , Peniarth , ar y maes fel Ceidwadwr . Cafodd Morgan Lloyd gefnogaeth llawer yn Ffestiniog a'r ardaloedd cylchynol, ond Robertson a enillodd y dydd. Torrodd Morgan Lloyd â Gladstone ar gwestiwn ymreolaeth Iwerddon , ac yn 1892 yr oedd yn ymgeisydd Undebol Rhyddfrydol am sedd Môn , ond colli a wnaeth. Cymerai ddiddordeb mewn addysg yng Nghymru ; yr oedd yn is-drysorydd pwyllgor mudiad 1863 i gael prifysgol i Gymru , a bu am rai blynyddoedd yn ysgrifennydd mygedol i Goleg y Brifysgol , Aberystwyth . Bu'n briod ddwywaith, y tro cyntaf gyda merch i'r llyngesydd Elphinstone Fleming , ac yn ail gyda Priscilla , merch James Lewes , Cwmhyar , sir Aberteifi . Bu f. yn Brook Green , ger Llundain , 5 Medi 1893 , a chladdwyd ef yng nghladdfa Willesden .

Ffynonellau:

  • Y Geninen (Gŵyl Dewi) 1894 , 29;
  • E. A. Williams , Hanes Môn yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Llangefni, 1927) ;
  • W. C. Davies a W. L. Jones , The History of the University of Wales ;
  • gwybodaeth breifat.

Awdur:

Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A., (1882-1955), Caernarfon

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54