LLOYD, THOMAS RICHARD ('Yr Estyn '; 1820 - 1891), clerigwr

Enw: Thomas Richard Lloyd
Ffugenw: Yr Estyn
Dyddiad geni: 1820
Dyddiad marw: 1891
Rhiant: John Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd yn Ninbych, mab hynaf John Lloyd, rheithor Llanycil, 1826-41, a Cherrig-y-drudion, 1841-68. Cafodd ei addysg yn ysgol Rhuthyn a Choleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn 1843. Urddwyd ef yn ddiacon yr un flwyddyn a'i drwyddedu'n gurad i Lanfynydd ym mhlwyf yr Estyn neu'r Hôb, Sir y Fflint; pan wnaethpwyd Llanfynydd yn blwyf ar ei ben ei hun dyrchafwyd ef yn gurad parhaus (cafodd urddau offeiriad yn 1844) ac yn rheithor yn 1845. Yno y bu hyd ei farw, 10 Mai 1891, ac yno y claddwyd ef. Pleidiai lwyrymwrthodiad oddi wrth ddiodydd meddwol; arferai ddefodau a ystyrid yn ucheleglwysig; yr oedd yn eisteddfodwr brwd ac yn aelod o orsedd y beirdd dan yr enw ' Yr Estyn.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.