LLOYD, THOMAS ('Crych Elen': 1841 - 1909), cerddor

Enw: Thomas Lloyd
Ffugenw: Crych Elen
Dyddiad geni: 1841
Dyddiad marw: 1909
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Lerpwl, ond magwyd ef yn Nolwyddelan. Bu'n chwarelwr, eithr ar gerddoriaeth y rhoes ei fryd. Urddwyd ef yn fardd ac yn gerddor yn 'Arwest Llyn Geirionydd' a gynhelid yn ymyl Trefriw, ac enillodd wobrwyon mewn eisteddfodau. Ymfudodd i U.D.A.

Y gân y cysyllta Cymru ei enw â hi ydyw 'Y Bwthyn Bach To Gwellt.' Bu farw 26 Awst 1909 yn ysbyty Allentown, Pennsylvania, a chladdwyd yn Slatington, Pennsylvania.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.