Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLOYD , VAUGHAN ( 1736 - 1817 ), cadfridog ;

g. yn Ffos-y-bleiddiaid (gerllaw Ystrad Meurig ), 17 Ionawr 1736 , yn fab ieuengaf i John Lloyd a'i wraig Mary ( Phillips , o sir Benfro ); ar y teulu, gw. Some family records … of the Lloyds , gan Lloyd-Theakston a Davies , mynegai — symudasant o Ffos-y-bleiddiaid i Mabws ym mhlwyf Llanrhystyd . Ymunodd Vaughan Lloyd â'r magnelwyr ; yr oedd ym mrwydr enwog Minden ( 1759 ), yn y garsiwn a lwyddodd i gadw Gibraltar ( 1779-80 ), ac yn India'r Gorllewin ( 1795-6 ) gydag Abercromby . Yr oedd wedi esgyn i radd cadfridog llawn, ac yn bennaeth yn Woolwich , pan fu f. 16 Ionawr 1817 .

Ffynonellau:

  • Cambrian Register (1795–1818) , iii, 525.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54