LLOYD, HOWEL WILLIAM (1816 - 1893), hynafiaethydd

Enw: Howel William Lloyd
Dyddiad geni: 1816
Dyddiad marw: 1893
Priod: Eliza Anne Lloyd (née Wilson)
Plentyn: Mary Lloyd
Plentyn: Edward H. Lloyd
Rhiant: Edward Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Enid Pierce Roberts

Ganwyd yn Rhagad ger Corwen 27 Awst 1816, mab Edward Lloyd, twrnai a chadeirydd enwog brawdlys chwarterol Meirion am oddeutu hanner canrif, ac ŵyr i'r barnwr Lloyd, prif farnwr cylchdaith Caerfyrddin. Cafodd ei addysg yn Rugby ac yng Ngholeg Balliol a Choleg Iesu, Rhydychen. Urddwyd ef, a bu am oddeutu dwy flynedd yn gurad Llangorwen, ger Aberystwyth. Yn 1842 cafodd guradiaeth barhaol Pentrefoelas, ond ymddiswyddodd yn 1844. Ar 6 Ebrill 1846, yn Oscott, ger Birmingham, derbyniwyd ef i Eglwys Rufain. Bwriadai fynd yn offeiriad Pabyddol, ond ni chaniatâi ei iechyd. Ymwadai gymaint oherwydd ei ddaliadau crefyddol nes yr edrychai'r Pabyddion arno bron fel un o ferthyron y ffydd. Gweithiodd yn galed i gael gwell cyfleusterau addysg i Babyddion. Yn ystod Rhyfel y Crimea bu'n uwchrif yn y swyddfa ryfel. Ysgrifennodd lawer am hanes a llên Cymru i gylchgronau'r cyfnod, ac yr oedd yn aelod o amryw gymdeithasau hynafiaethol. Cynorthwyodd ei gyfaill, J. Y. W. Lloyd, i gyfieithu barddoniaeth ar gyfer History of Powys Fadog, a chydag Edward Hamer ysgrifennodd History of the Parish of Llangurig.

Yn 1850 priododd Eliza Anne, merch George Wilson, Nutley a Brighton. Ganwyd iddynt ddau o blant - Mary, a fu farw'n ifanc, a mab, Edward H. Lloyd. Bu farw ei wraig 20 Mawrth 1887, a bu yntau farw yn ei gartref, 56 Abingdon Villas, Kensington, 20 Medi 1893, yn 77 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.