LLUELYN (neu LLEWELLIN), MARTIN (1616 - 1682), bardd a meddyg

Enw: Martin Lluelyn
Dyddiad geni: 1616
Dyddiad marw: 1682
Plentyn: George Lluelyn
Rhiant: Martin Lluelyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a meddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth; Barddoniaeth
Awdur: John James Jones

Mab Martin Lluelyn o Lundain; Ganwyd 12 Rhagfyr 1616. Y mae ei enw, efallai, yn ddigon o brawf ei fod o ach Gymreig. Heblaw hynny disgrifir ei fab George gan Burney (History of Music, 1789, 3, 495 n.) fel ' a Jacobitical, musical, mad Welsh parson. ' Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle y graddiodd (B.A. 1640 ac M.A. 1643). Yn y Rhyfel Cartrefol ymunodd â byddin y brenin a gwnaed ef yn gapten. Gyrrwyd ef allan o Rydychen yn 1648 gan 'ymwelwyr' y Senedd, a daeth i Lundain i ddilyn yr alwedigaeth o feddyg. Gwnaed ef yn M.D. (Oxon.) yn 1653 ac yn gymrawd o Goleg y Meddygon yn 1659. Ysgrifennodd benillion i ddathlu dychweliad Siarl II, ac yn 1660 llwyddodd yn ei ddeisyfiad am swydd fel un o feddygon y brenin. Yr un flwyddyn penodwyd ef yn brifathro S. Mary Hall, Rhydychen. Cymerodd ran flaenllaw gyda'r ddrama, yn arbennig ar gyfer ymweliad y brenin â'r brifysgol yn 1661. Ond barddoniaeth yw'r cwbl o'i weithiau a gyhoeddwyd. Yn 1664 ymadawodd â Rhydychen a sefydlu yn High Wycombe, swydd Buckingham, lle y parhaodd i ddilyn ei alwedigaeth fel meddyg. Gwnaed ef yn ustus ac yn faer y dref. Bu farw 17 Mawrth 1681/2.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.