LLWYD, ANGHARAD (1780 - 1866), hynafiaethydd

Enw: Angharad Llwyd
Dyddiad geni: 1780
Dyddiad marw: 1866
Rhiant: Martha Lloyd (née Williams)
Rhiant: John Lloyd
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Evan Gilbert Wright

Ganwyd 15 Ebrill 1780 yng Nghaerwys, Sir y Fflint, merch John Lloyd, rheithor Caerwys.

Yr oedd Angharad Llwyd yn aelod o (ail) Gymdeithas Cymmrodorion Llundain, a derbyniodd lawer o fedalau aur ac arian mewn eisteddfodau am ei thraethodau. Yn eisteddfod y Trallwng, 1824, cafodd yr ail wobr am 'Catalogue of Welsh Manuscripts, etc., in North Wales'; dau draethawd arall o'i heiddo oedd 'Genealogy and Antiquities of Wales' a 'The Castles of Flintshire.' Golygodd a chyhoeddodd argraffiad o The history of the Gwydir family (Syr John Wynn). Ei phrif waith cyhoeddedig oedd History of the Island of Mona; derbyniasai hwn y brif wobr yn eisteddfod Biwmares, 1832.

Treuliodd gyfran helaeth o'i hoes yn copïo llawysgrifau mewn llyfrgelloedd preifat trwy'r wlad; ceir syniad am faint ei diwydrwydd yn copïo ac am swm ei chyfraniadau hi ei hun os edrychir ar y llu llawysgrifau o'i heiddo sydd yng nghasgliadau Kinmel, etc., yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw 16 Hydref 1866 yn Ty'n y Rhyl, Rhyl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.