LLWYD, Syr DAFYDD (neu Dafydd Llwyd, ysgolhaig, neu Deio Ysgolhaig), bardd

Enw: Dafydd Llwyd
Ffugenw: Dafydd Llwyd, Ysgolhaig, Deio Ysgolhaig
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

Bardd o gyfnod Elisabeth, a ddisgrifir yn 'Brithwaith Gwilym Pue' (NLW MS 4710B ) fel offeiriad mwyn o Frycheiniog, neu Aberhonddu efallai ('lepidus ministellus Breconiensis'). Cadwyd tri chywydd (i ferch) o'i waith, gyda llawer o wahaniaethau geiriol, yn Cwrtmawr MS 21B , Cardiff MS. 64, NLW MS 552B , NLW MS 832E , NLW MS 834B , NLW MS 5269B , a 'Cywydd y Pwrs' yn NLW MS 4710B . Prentiswaith yw ei gywyddau, gyda thuedd at gynnwys geiriau Saesneg, ac oherwydd ei ffraethineb a'i ysgafnder yn hytrach na glendid ei iaith y codwyd 'Cywydd y Pwrs' i'w lyfr gan Gwilym Pue.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.