LLWYD (LLOYD), HARRI (bu farw 1799), pregethwr cynorthwyol Wesleaidd

Enw: Harri Llwyd
Dyddiad marw: 1799
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr cynorthwyol Wesleaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Erys manylion ei hanes cynnar o hyd yn ddirgelwch. Dywaid iddo gael ei argyhoeddi o bechod dan weinidogaeth Dafydd Jones (nai Griffith Jones, Llanddowror?) yng nghapel anwes Llanlluan; dyfnhawyd yr argyhoeddiad gan bregethu Howel Harris, a daeth i'r goleuni llawn tua mis Awst 1743 - un o'r ychydig ddyddiadau gweddol sicr yn ei hanes cynnar. Bu'n pregethu'n gynorthwyol gyda'r Wesleaid o tua 1746 hyd ei farw yn 1799. Er bod sôn amdano'n pregethu yng Nghernyw unwaith, cyfyngodd ei wasanaeth gan mwyaf i seiadau Wesleaidd Deheudir Cymru; enwir ef yng nghofnodion cynhadledd 1747 ymysg y rhai ' that assist us only in one place.' Yn 1779 dywaid Wesley na fwriadwyd iddo fod yn weinidog sefydlog yn unman: ' he is only permitted to preach up and down, chiefly in Welsh, at the discretion of the Assistant.' Daliodd yn gyfeillgar â Howel Harris ar hyd ei oes, a bu'n pregethu yn Nhrefeca yn 1771 a 1772. Ysgrifennodd Profiad Tufewnol o Nefoedd ac Uffern, 1750; Hymnau ar Amryw Ystyriaethau, 1752; Pregeth ar Farwolaeth Parchedig G. Whitefield … gan J. Wesley (cyf. Llwyd, 1771); Marwnad … Howell Harris, 1773.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.