Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLWYD ( LHUYD ), HUMPHREY ( 1527 - 1568 ), meddyg a hynafiaethydd ;

g. 1527 yn Ninbych , mab Robert Llwyd (neu Lloyd ) a Joan , merch Lewis Pigott . Cafodd ei addysg yn Rhydychen ; B.A. 1547 , M.A. 1551 . Bu'n dysgu ffisigwriaeth a bu'n feddyg preifat i arglwydd Arundel , canghellor Prifysgol Rhydychen , eithr dychwelodd i Ddinbych yn 1563 . Er ei fod yn dilyn ei alwedigaeth fel meddyg yr oedd i Lwyd ddiddordeb mewn cerddoriaeth a'r gwyddorau ; galwodd Anthony à Wood ef yn ‘ person of great eloquence, an excellent rhetorician , a sound philosopher , and a most noted antiquary .’ Priododd Barbara , chwaer ac aeres John , yr arglwydd Lumley olaf , a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Gwerthwyd i'r brenin Iago I lyfrau y bu Llwyd yn eu casglu i'r arglwydd Lumley ; y maent yn awr yn yr Amgueddfa Brydeinig . Arwyddair Llwyd , yn ôl darlun ‘mezzotint’ ohono a wnaethpwyd gan J. Faber ( 1717 ), oedd ‘ Hwy pery klod na golyd .’ Ymysg gweithiau cyhoeddedig Llwyd y mae: An Almanack and Kalender containing the Day, Hour, and Minute of the Change of the Moon for ever ; De Mona Druidium Insulâ , llythyr, dyddiedig 5 Ebrill 1568 , wedi ei gyfeirio at Abraham Ortelius , cyhoeddwr , Antwerp , ac wedi ei gyhoeddi mewn argraffiadau o atlas y cyhoeddwr , sef Theatrum Orbis Terrarum (yn Lladin , 1603 ; yn Saesneg , 1606 ); Commentarioli Descriptionis Britannicae Fragmentum ( Cologne , 1572 ), a gyfieithwyd yn Saesneg gan Thomas Twyne o dan y teitl The Breuiary of Britayne , 1573 ; cyfieithiad Saesneg o'r hanes yr arferid ei briodoli i Caradog o Lancarfan a fersiwn wedi ei helaethu o lyfryn gan Syr John Price , Aberhonddu [q.v.] , The Description of Cambria , a ddaeth yn sylfaen The Historie of Cambria David Powel [q.v.] , 1584 ; The Treasury of Health , a gyhoeddwyd yn 1585 ar ôl marw Llwyd ; cyfieithiad o Thesaurus Pauperum Petri Hispani , gyda chyfraniad gan Llwyd , The causes and signs of every Disease, with Aphorisms of Hippocrates .

Trwy ŵr arall o Ddinbych , sef Syr Richard Clough [q.v.] , a fu'n byw am gyfnod yn Antwerp , y daeth Llwyd i gyswllt ag Ortelius . Mewn canlyniad i hyn paratodd Llwyd fap (llawysgrif) o Gymru — ‘ Cambriae Typus ’ — a map o Loegr a Chymru ; ymddangosodd y ddau am y tro cyntaf yn 1573 , mewn atodiad i'r Theatrum a gyhoeddodd Ortelius yn 1570 i gychwyn. Mewn llythyr a anfonodd gyda'r map eglurodd Llwyd fod ei fap o Gymru yn rhoddi hen enwau afonydd, trefi, pobl, a lleoedd yn ogystal â'r enwau Saesneg cyfoes, a bod map Lloegr a Chymru yn cynnwys yr hen enwau a roddid gan Ptolemaeus , Plinius , ac eraill. Yr oedd yr awdur, felly, yn golygu i'r mapiau fod yn ddogfennau hanesyddol a daearyddol. Cwpláwyd hwynt ychydig fisoedd cyn marw Llwyd , a hwy oedd y mapiau cyntaf o'r gwledydd arbennig hyn a argraffwyd ar wahân; parhawyd i adargraffu'r map o Gymru hyd 1741 . Traethir ar y gwahanol broblemau ynglŷn â pharatoi'r mapiau gan F. J. North yn Humphrey Lhuyd's maps of England and Wales (a gyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru , 1937 ). Bu Llwyd f. 31 Awst 1568 yn Ninbych , ac yno, yn yr Eglwys Wen , y claddwyd ef.

Ffynonellau:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • Wood , Athenae Oxonienses (1813–20) , i, 382-4;
  • Philip Yorke , The Royal Tribes of Wales (arg. 1887 ), 104-6.

Awdur:

Frederick John North, O.B.E., D.Sc., F.G.S., F.S.A., F.M.A., (1889-1968), Caerdydd

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54