Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLWYD , MORGAN ( 1619 - 1659 ), llenor, bardd, cyfrinydd, a diwygiwr .

G. yng Nghynfal , plwyf Maentwrog , Meirionnydd . Ceir ef yn yr ysgol yn Wrecsam yn 1634-5 , a threuliodd dymor yn Brampton Bryan , Llanfair Waterdine , sir Amwythig , lle enwog am ei nodded i ddysg. Cafodd y profiad o ‘dröedigaeth’ trwy bregethu Walter Cradoc , curad eglwys Wrecsam ar y pryd. Dilynodd ef i Ddeau Cymru , gan ymdroi ymhlith y gwyr a sefydlodd yr achos Anghydffurfiol cyntaf yng Nghymru , yn Llanfaches , sir Fynwy . Gwasnaethodd blaid y Senedd yn y ddau Ryfel Cartref , a chafodd syniadau'r Pumed Brenhinwyr gryn afael arno. Ymsefydlodd yn Wrecsam yn 1647 , a gwnaeth ei gartref ym Mryn-y-ffynnon , gan fwrw'i aden dros ‘eglwys gynnull’ yn y lle. Dewiswyd ef yn ‘ Gymeradwywr ’ ynglyn â Deddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru yn 1650 , a llafuriodd lawer fel pregethwr teithiol .

Ysgrifennodd swm mawr o brydyddiaeth sy'n cynnwys troi nifer o'r salmau a rhannau o Ganiad Solomon ar gân, a llunio amryw emynau gwreiddiol . Cyhoeddodd nifer o bamffledau a llyfrau , yn Gymraeg ac yn Saesneg , ac yn eu plith y clasur hwnnw, Llyfr y Tri Aderyn . Argraffwyd ei weithiau hysbys gan Brifysgol Cymru mewn dwy gyfrol, un yn 1899 a'r llall yn 1908 . Erys deunydd cyfrol arall mewn llawysgrifau (yn Ll.G.C. ). Bu'n rhagredegydd i'r Crynwyr yng Nghymru , ac y mae'n lladmerydd i'w dysg hyd yn oed yn ei weithiau cynharaf. Hefyd, trosodd o'r Saesneg rai o draethodau Jacob Boehme , y cyfrinydd o'r Almaen , gan ddehongli ei ddaliadau i'r Cymry . Bu â rhan amlwg yn nigwyddiadau gwleidyddol cyfnod y Weriniaeth , a chan gymaint ei gythrudd o weld Cromwell yn derbyn y teitl o ‘ Arglwydd Amddiffynnydd ,’ mentrwyd rhoi ei enw ar y brotest honno, A Word for God , ond ymwâd yn bendant â'r weithred. Yn 1656 cymeradwyir ef gan y ‘ Profwyr ’ fel gweinidog i efengylu yn Wrecsam , a gorchmynnir talu iddo £100 bob blwyddyn.

Bu f. ym Mehefin 1659 a rhoed ei weddillion i orffwys yng ngardd gladdu Rhosddu , Wrecsam , lle y dadorchuddiwyd cofgolofn iddo yn 1912 .

Ffynonellau:

  • E. Lewis Evans , Morgan Llwyd ymchwil i rai o'r prif ddylanwadau a fu arno (Lerpwl, 1930) , a'r cyfeiriadau yno.

Awdur:

Y Parchedig Ddr Evan Lewis Evans, D.Th., (1898-1978), Pontarddulais / Abertawe

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54