Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLYWARCH ap BRAN ( fl. c. 1137 ), ‘sylfaenydd’ un o ‘Bymtheg Llwyth Gwynedd .

Dywedir ei fod yn frawd-yng-nghyfraith i Owain Gwynedd — merched i Gronw ab Owain ab Edwin , arglwydd Tegeingl , oedd gwragedd Llywarch ac Owain Gwynedd . Dywedir hefyd iddo, fel Hwfa ap Cynddelw , wasnaethu Owain Gwynedd fel stiward , ei fod yn byw yn nhrefgordd Tref Llywarch , Môn ; fe'i disgrifir hefyd yn arglwydd cwmwd Menai . Am enwau rhai teuluoedd yr oedd eu haelodau yn hawlio bod yn ddisgynyddion Llywarch gw. Philip Yorke , Royal Tribes (arg. 1887 ), 177-80.

Ffynonellau:

  • Philip Yorke , The Royal Tribes of Wales (arg. 1887 );
  • T. Pennant , A Tour (Tours) in [North] Wales (arg. 1883 ).

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54