LLYWELYN ap GUTUN (fl. c. 1480), bardd

Enw: Llywelyn ap Gutun
Plentyn: Gruffudd ap Llywelyn ap Gutun
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Ymhlith ei farddoniaeth a gadwyd ceir cywydd marwnad i'w fab Gruffudd, cywyddau gofyn am gi, geifr, a sbectol, cywydd dychan i ddeon Bangor (a roes lythyr iddo i'w roddi i Huw Lewys o'r Chwaen yn gorchymyn i hwnnw garcharu'r bardd yn hytrach na rhoi hawl iddo ŵyna 'cymorth' ym Modeon ac Aberdaron), a chywydd i'r deon Rhisiart Cyffin sydd hefyd yn ddychan i Rys Pennardd, Hywel ap Rheinallt, a Lewys Môn. Canwyd ymrysonau rhyngddo a D. Llwyd o Fathafarn, Guto'r Glyn, Lewys Môn a Gruffudd ab Ieuan ap Rhys Llwyd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.