Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLYWARCH ap LLYWELYN (‘ Prydydd y Moch ’; fl. 1173-1220 );

yr amlycaf o feirdd llys Gwynedd wedi marw Owain Gwynedd hyd at anterth Llywelyn Fawr . Y mae'n cyfarch Dafydd fab Owain Gwynedd fel ‘ Udd Ffraw ’; felly canai iddo rhwng 1173 a 1175 . Cynnen rhwng brodyr o dywysogion oedd prif berygl yr oes yng Nghymru , a hawdd deall y cyfeiriad at Gain ac Abel mewn awdl i Rodri . Dyrchafu awdurdod Aberffraw oedd y llwybr ymwared a welai Llywarch . Yr oedd Dafydd fel ‘ Udd Ffraw ’ yn ‘ brif deyrn canhwynawl ,’ ond yr oedd rhaid iddo, medd y bardd , fynnu ei flaenoriaeth trwy rym — nid trwy gariad. Ar ôl Dafydd , bu Rhodri , ac yna Gruffudd ei nai yn rheoli Aberffraw , ond er gwanned oeddynt, daliai Llywarch i bleidio ‘ hawl greddfawl ’ y llys hwnnw dros y Brython ‘o Fôn i Fynyw .’ Gellir deall felly ei orfoledd yng nghynnydd Llywelyn Fawr . Ceir naw o gerddi a ganodd iddo fel ei brifardd ar wahanol adegau ar ei yrfa. Adeg bygwth Powys gan Lywelyn yw achlysur y ‘ Canu Mawr ,’ ac apelia'r bardd at wŷr y dalaith honno ar dir cenedlaethol, sef mai gwell derbyn Cymro yn ben nag estron. A sonia droeon am ei arwr fel ŵyr Madog fab Maredudd yn ogystal ag Owain Gwynedd . Yn y ‘ Canu Bychan ’ gwêl Llywarch sylweddoli ei holl freuddwydion; olrheinia yrfa Llywelyn trwy Ogledd a De hyd at fuddugoliaethau 1220 , a blaenoriaeth Aberffraw bellach yw balchder Cymru , ei hundod, a'i llwyddiant. Canodd Llywarch hefyd i amryw dywysogion a oedd yn is-wasanaethgar i Lywelyn yng Ngwynedd a Phowys , a'r un modd i Rys Grug yn y De. Y mae'r cyfeiriadau at gastell Gwis , Arberth , a Hawrffordd yn awgrymu 1220 yn hytrach na 1215 . Fel ffrwyth undod newydd Cymru ceir gan y bardd hwn ymorfoleddu yn enwau lleoedd Cymru gyfan na cheir ei debyg gan unrhyw fardd o'i flaen. Canodd rieingerdd i Wenllian Deg . Yn ‘ Awdl yr Haearn Twymyn ’ y mae'n gwadu'r cyhuddiad iddo ladd ryw Fadawg . Ansicr yw ei awduriaeth o'r ‘ Canu i Dduw ’ a briodolir iddo yn Hendregadredd MS. ond i Gynddelw yn Myv. Arch. a Llyfr Coch Hergest ; y mae'r condemnio trachwant tywysogion yn gweddu'n well i Gynddelw . Anodd esbonio'r llysenw ar Lywarch , onid yw'r cyfeiriad at foch yn Myv. Arch. 204 a 26 yn rhyw eglurhad. Y mae achos i gredu iddo genfigennu wrth Wilym Ryfel am ei lwyddiant yn llys Dafydd ab Owain Gwynedd ( Myv. Arch. 201 a 58). Ei olynydd yn llys Llywelyn oedd Dafydd Benfras , a hwyrach mai ei fab oedd, ac os felly, ei unig fab ( Myv. Arch. 255 b 5).

Ffynonellau:

  • Ei farddoniaeth yn The Myvyrian Archaiology of Wales , Llawysgrif Hendregadredd (1933) , 1933 , a Llyfr Coch Hergest.
  • Gw. hefyd Hen Gerddi Crefyddol (Caerdydd, 1931) (gol. Henry Lewis ), a J. Lloyd-Jones , The Court Poets of the Welsh Princes .

Awdur:

David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54