Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLYWELYN ap SEISYLL (bu f. 1023 ), brenin Deheubarth a Gwynedd .

Ni wyddys ddim am ei dad, eithr yn ôl rhai achau diweddar yr oedd ei fam, Prawst , yn ferch Elisedd , brawd iau i Anarawd ap Rhodri Fawr [q.v.] . Gan i Lywelyn briodi Angharad , merch Maredudd ab Owain ap Hywel Dda , yr oedd ganddo hawl, o bell, i olyniaeth yn Neheubarth a Gwynedd , hawl y gellid, yn amgylchiadau'r cyfnod, ei gwneuthur yn sylwedd gan arweinydd nerthol ac uchelgeisiol. Un felly'n union oedd Llywelyn ; a chan iddo orchfygu, yn 1018 , y gŵr a gipiasai'r deyrnas, sef Aeddan ap Blegywryd , a hefyd orchfygu Rhain , ymhonnwr o Iwerddon , yn 1022 , daeth yn bennaeth yn y De . Estynnodd ei reolaeth hefyd am rai blynyddoedd dros ran fawr o Gymru — cyfnod cofiadwy yn hanes Cymru a barnu oddi wrth y cronicl. Prif hawl Llywelyn ap Seisyll i enwogrwydd, fodd bynnag, ydyw'r ffaith mai ef oedd tad Gruffydd ap Llywelyn [q.v.] ; gwnaethpwyd ei yrfa nodedig ef yn bosibl gan esiampl ei dad — yr oedd ei hawl ef i awdurdod yn seiliedig i raddau helaeth ar y cyfnod byr o benarglwyddiaeth ‘de facto’ Llywelyn .

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest ;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1899 - 1900 .

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

LL. ap SEISYLL ( Bywg. , 567)

Ar waelod y golofn gyntaf, darllener mab (nid ‘brawd').

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54