Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LLYWELYN GOCH Y DANT ( fl. 1470-1 ), bardd

a gysylltir yn arbennig â sir Forgannwg . Cymerodd blaid beirdd Tir Iarll yn yr ymryson a gododd oddi ar farwnad Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys i Ieuan ap Hywel Swrdwal tua 1470 , ac yn ei gywydd yn y gyfres hon (‘ Mae yn y tir myn y tân ’) enwa wyth o feirdd cyfoes, a'i gyfrif ef ei hun, ym Morgannwg . Canodd foliant Syr Rhoser Fychan , Tre Tŵr (‘ Syr Rhoser piler pob haelioni ’) pan oedd hwnnw yn ei anterth, a'i farwnad (‘ Torrodd fraint cywraint ceyrydd ’) pan ddienyddiwyd ef gan Siaspar Tudur , iarll Penfro , yng Nghasgwent yn 1471 . Cynnwys y farwnad ymosodiad ffyrnig ar Siaspar . Canodd hefyd awdl ar fesurau go anghyffredin i fynachlog Nedd (‘ Naddwyd nid crefft anweddus ’). A dyna'r cyfan o'i waith a gadwyd. Disgrifir ef mewn cywydd gan Ieuan Du'r Bilwg (‘ y nithwraig ar y noethwraidd ’) fel pencerdd a ‘ phen prydydd ar gywydd gŵr .’ Awgryma Lewis Glyn Cothi mewn cywydd i Siôn ap Dafydd iddo dreulio llawer o'i amser yng Nghilfai ( Gwaith , 108).

Ffynonellau:

  • N.L.W. Llawysgrif Gwysaney yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth) 38;
  • G. J. Williams , Traddodiad Llenyddol Morgannwg (1948) , 37-8.

Awdur:

Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54