LLYWELYN, TOMAS (fl. c. 1580-1610), neu Tomas ap Llywelyn ap Dafydd ap Hywel, bardd ac uchelwr

Enw: Tomas Llywelyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac uchelwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Griffith John Williams

o Rigos yng ngogledd Morgannwg. Yn ôl un llyfr achau, yr oedd o hil Einion ap Collwyn. Ceir amryw gywyddau o'i waith yn y llawysgrifau, ac yr oedd hefyd, megis y rhan fwyaf o feirdd Morgannwg yn yr oes honno, yn canu cwndidau duwiol. Efallai mai ei gyfansoddiadau mwyaf diddorol i ni heddiw ydyw ei ddau draethodl, y naill yn cynnwys dadl rhwng yr eglwys a'r dafarn, a'r llall 'brognosticasiwn' am y flwyddyn 1610. Sonnid amdano yn y ganrif ddiwethaf fel un o sêr bore Anghydffurfiaeth ym Mlaenau Morgannwg, a dywedid fod ganddo gynulleidfaoedd yn Rhigos a Blaencannaid a mannau eraill, ac iddo gyfieithu'r Beibl Saesneg yn Gymraeg. ' Iolo Morganwg ' a ddywedodd y pethau hyn gyntaf, a chyn belled ag y gellir barnu, nid oes dim sail iddynt.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.