Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LORT (TEULU),

o Stackpole a mannau eraill yn sir Benfro .

Daeth GEORGE LORT o Staffordshire i sir Benfro tua 1567 , yn stiward stad Stackpole dan Margaret Stanley ; yn ddiweddarach, prynodd y stad. Dilynwyd ef ynddi gan ei fab ROGER LORT ( 1555? - 1613 ), a fu'n siryf yn 1607 ; wedyn daeth HENRY LORT ( siryf yn 1619 ), y dywedir ei fod yn bur ddwfn yn y fusnes ‘ smyglo ’ ar arfordir Penfro . Cafodd Henry dri mab: ROGER (a wnâi ei gartref yn Stackpole ), JOHN (a oedd yn byw yn Prickaston neu Prickeston , nepell o eglwys Castell Martin — gw. Fenton , Pembrokeshire , arg. 1903 , 223; nid yw heddiw ond tŷ fferm), a SAMPSON , o East Moor gerllaw Maenor Bŷr , a briododd ferch i Syr John Philipps o Gastell Pictwn . Chwaraeodd y tri hyn y ffon ddwybig yn bur ddeheuig yn y Rhyfel Cartrefol . Yn 1642 , yr oedd Roger ar gomisiwn (seneddol) milisia'r sir , ond yn yr un flwyddyn cawn ef a Sampson yn aelodau o'r ‘ Royalist Association ,’ a Roger yn swyddog milwrol dros y brenin ; arwyddodd y ddau sawl datganiad ym mhlaid y brenin yn 1643-4 ; perswadiodd Roger dref Dinbych-y-pysgod i dderbyn garsiwn frenhinol, ac yr oedd Sampson ymhlith y gwŷr bonheddig a soniai am ymosod ar dref Penfro . Yn 1644 , cipiwyd Stackpole gan Rowland Laugharne [q.v.] , ond nid oedd Roger Lort yno — yr oedd wedi mynd i Lundain i wneud ei heddwch â'r Senedd ; a serch ei ddirwyo ( 1645 ) i dalu £1,000, ni thalodd byth mo'r ddirwy. Yn wir, yn 1645 wele'r tri brawd yn aelodau o ‘Association’ seneddol gorllewin Cymru . Ond y mae'n eglur nad oedd gan arweinwyr Piwritanaidd Dyfed fawr ffydd ynddynt; ac yn yr un flwyddyn daeth gelyniaeth rhyngddynt a Poyer a Laugharne [qq.v.] i'r amlwg. Daeth yr elyniaeth hon yn fater pwysig yn 1647 , pan fwriodd Poyer y tri brawd i'r ddalfa; anufudddod Poyer i orchymyn Laugharne i'w rhyddhau fu un o achosion cwymp Poyer wedyn — sut bynnag, fe'u rhyddhawyd, ac ar derfyn y rhyfel maddeuwyd eu hen droseddau gynt yn swyddogol. Ond wrth gwrs, bychan a feddyliai'r Cafaliriaid chwaith ohonynt. Barn wawdus rhyw ŵr yn 1661 ( Laws , Little England , 358 = Camb. Register , i, 164) am Roger Lort oedd ‘ ei fod yn barod i arddel unrhyw egwyddor neu grefydd a ddygai iddo gyfoeth ’; am Sampson Lort , ‘ gên [asyn] y Sampson Ysgrythurol yn unig a oedd ganddo, ond gwnaeth lawer o ddifrod â hi; fe all weddio cyhyd ag y tâl iddo .’ Nid annheg yw chwanegu mai Sampson oedd y tebycaf i wir Bengrwn ohonynt. Merch iddo ( Elizabeth ) oedd gwraig Charles Lloyd ( yr ail ) o Ddolobran (gw. dan Lloyd o Ddolobran ) . Ar y llaw arall Roger yn unig ohonynt a wnaeth unrhyw osgo o wasanaeth milwrol i'r brenin . Tybir i Sampson yntau ffafrio'r Adferiad ; yr oedd wedi marw erbyn 1670 , oblegid ‘ Thomas Lort , gent. ’ a oedd yn berchen tŷ â saith aelwyd ym mhlwyf Maenor Bŷr yn 1670 ( W. Wales Hist. Records , x, 190).

Dyn a garai esmwythyd, ac a hoffai gyfansoddi epigramau Lladin , oedd Roger Lort . Urddwyd ef yn farwnig yn 1662 , a bu f. yn 1664 . Dilynwyd ef gan ei fab, Syr JOHN LORT (a fu f. 1673 ), a hwnnw gan ei fab yntau, Syr GILBERT LORT , a fu farw'n ddibriod yn 1698 . Pasiodd y stad i'w chwaer ELIZABETH LORT , a ddaeth yn wraig i Alexander Campbell o Cawdor ; felly y daeth arglwyddi Cawdor i Ddyfed .

Bu mwy nag un siryf o hil John Lort o Prickaston . Yr olaf o'r llinell uniongyrchol oedd JOHN LORT , a fu'n siryf yn 1775 ac a oedd wedi marw erbyn 1778 . Daeth ei ferch ( ELIZABETH ) yn wraig i George Phillips o Hwlffordd , a chychwyn teulu LORT . Ewythr i'r John Lort diwethaf oedd ROGER LORT , a glwyfwyd yn farwol ym mrwydr Fontenoy , 1745 (cofysgrif iddo ef a'i wraig a rhai o'u plant yn Laws , Church Book of S. Mary the Virgin at Tenby , 84), ac a oedd yn briod ag Anne Jenkins , merch i glerigwr o blwyf Llanbadarn-fawr , Ceredigion — y mae sôn am ei meddiannau yno (bu hi f. 1767 ) yn Morris Letters , ii, 565, ac Add. M.L. , tt. 898, 912, 925. Yr hynaf o'u plant oedd MICHAEL LORT , a aned yn Prickaston yn 1725 (yr oedd ‘yn 18 oed’ pan dderbyniwyd ef i Goleg y Drindod , Caergrawnt , ganol Mehefin 1743 ), a fu yn ysgol ‘ Mr. Evans ,’ Dinbych-y-pysgod , cyn mynd i Ysgol Westminster ac oddi yno i Gaergrawnt , ac a fu farw yn Colchester 5 Tachwedd 1790 . Bu Michael Lort yn athro Groeg yn ei brifysgol; yr oedd yn hynafiaethydd , ac yn gyfaill i Gray a Boswell . Ni fedrai Gymraeg , ond arweiniwyd ef gan ei chwilfryded ynghylch barddoniaeth Geltaidd i ymgynghori â Richard Morris o Fôn ac i ohebu â Lewis Morris — gw. Morris Letters , ii, 537, 544, 550, 555, 557, 565, 581; Add. M.L. , tt. 466-8. Yr oedd yn ewythr i W. L. Mansell [q.v.] .

Ffynonellau:

  • E. Laws , History of Little England beyond Wales (1888) (mynegai);
  • James Phillips , The History of Pembrokeshire (Llundain, 1909) (mynegai);
  • Henry Owen , Old Pembroke Families in the ancient County Palatine of Pembroke. Compiled, in part from the Floyd MSS. (Llundain, 1902) , 29-31;
  • Mirehouse , South Pembrokeshire some of its history and records (Llundain, 1910) , 51 sqq . (lle y camenwir John Lort y cyntaf yn ‘Henry’);
  • A. L. Leach , History of the Civil War (1642-49) in Pembrokeshire and on its borders (Llundain, 1937) (mynegai);
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales (1895) ;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1946-7 , 212, 228;
  • a'r cyfeiriadau uchod.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

LORT (TEULU; Bywg., 531)

Mae'n debyg mai'r Sampson Lort a enwir yn yr ail golofn oedd y gŵr o'r enw hwn a laniodd yn Bermuda yn 1635 (gw. A. H. Dodd , Early Welsh emigration to the U.S. , 11-12).

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54