Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



LOWE , RICHARD ( 1810 - 1853 ), gwehydd a cherddor ;

g. yn Llanidloes , sir Drefaldwyn , yn 1810 , mab Mathew a Mary Lowe . Gwehydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Dysgwyd cerddoriaeth iddo gan James a Richard Mills . Bu'n arweinydd y canu yn eglwys Llanidloes am lawer o flynyddoedd. Ceir dwy dôn o'i waith — ‘ Pererindod ’ a ‘ Diwygiad ’ — yn Caniadau Seion a'r Atodiad ( Richard Mills ). Symudodd i fyw i'r Drefnewydd ac yno y bu f. yn 1853 .

Ffynonellau:

  • M. O. Jones , Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig (1890) ;

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54