LOYD, LEWIS (1767-1858), bancer

Enw: Lewis Loyd
Dyddiad geni: 1767
Dyddiad marw: 1858
Plentyn: Samuel Jones Loyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bancer
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian
Awdur: John Oliver Stephens

Ganwyd 1 Ionawr 1767 yn Cwm-y-to, plwyf Llanwrda, Sir Gaerfyrddin. Mewn ysgol a gynhelid yn Llanycrwys, heb fod ymhell o Lanbedr-Pont-Steffan, gan David Price, derbyniodd syniadau rhyddfrydol am wirioneddau Cristionogaeth, ac yn 1785 aeth i academi Caerfyrddin, a oedd yn cael ei chynnal yn Abertawe ar y pryd, gan orffen ei gwrs yno yn 1789. Oherwydd ei siomi y flwyddyn honno am swydd athro yn yr academi - pan ddewiswyd David Peter - aeth i Goleg yr Undodwyr, Manchester; yno, yn ei ail flwyddyn, dewiswyd ef yn athro cynorthwyol yn y clasuron. Tua'r un adeg cymerodd ofal y gynulleidfa yn Lob Lane, gerllaw Manchester. Pan briododd fe'i perswadiwyd gan ei frodyr-yng-nghyfraith, Samuel a William Jones, i adael y weinidogaeth ac ymuno â hwy fel partner yn eu busnes bancio. Ar ddiwedd ei yrfa yn y byd newydd hwnnw yr oedd yn werth rhai miliynau o bunnau. Sefydlodd gangen Llundain o Jones, Loyd & Co. Wedi hynny daeth y gangen yn rhan o'r London and Westminster Bank. Stad Overstone yn sir Northampton oedd un o'i bryniadau mawr cyntaf; yr oedd yn siryf y sir honno yn 1835. Parhaodd i ofalu am gangen Lothbury (Llundain) y banc hyd 1846, pryd yr ymneilltuodd i Overstone, lle y bu farw 13 Mai 1858.

Dilynwyd ef ym musnes y banc gan ei unig fab SAMUEL JONES (LOYD ?) (1796 - 1883). Bu ef yn aelod seneddol (Rhyddfrydol) dros Hythe, Caint, 1819-26. Gwnaethpwyd ef yn farwn Overstone yn 1850. Gadawodd unig ferch a briododd Robert James Loyd-Lindsay, barwn Wantage wedi hynny.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.