LUCAS, RICHARD (1648 - 1715), clerigwr ac awdur

Enw: Richard Lucas
Dyddiad geni: 1648
Dyddiad marw: 1715
Rhiant: Richard Lucas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd yn Llanandras, sir Faesyfed, yn fab i Richard Lucas. Addysgwyd ef yng Ngholeg Iesu, Rhydychen; graddiodd yn B.A. 1668, M.A. 1672, a bu'n gymrawd 1671-84. Wedi cymryd urddau bu'n feistr ysgol rad Abergafenni am lawer blwyddyn. Yn 1678 daeth yn rheithor eglwys Sant Steffan, Coleman Street, Llundain, ac yn 1683 yn ddarlithydd yn S. Olave, Southwark. Dyfarnwyd iddo radd D.D. yn 1691, ac yn 1697 apwyntiwyd ef yn brebendari Westminster. Collasai ei olwg cyn yr apwyntiad hwn. Enillodd Lucas fri fel pregethwr ac awdur. Cynnwys ei weithiau cyhoeddedig Enquiry after Happiness, 1685; Practical Christianity or an account of the Holiness which the Gospel enjoins, 1690; Christian Thoughts for every day in the week; The Plain Man's Guide to Heaven, 1692; The Morality of the Gospel; Influence of Conversation, 1707; The Duty of Servants, 1710. Hefyd cyfieithodd The Whole Duty of Man yn Lladin. Cyhoeddwyd nifer o gyfrolau o'i bregethau gan ei fab. Bu farw 29 Mehefin 1715, a chladdwyd ef yn abaty Westminster.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.