LYNN-THOMAS, Syr JOHN (1861 - 1939), llawfeddyg

Enw: John Lynn-thomas
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1939
Priod: Mary Rosena Lynn-Thomas (née Jenkins)
Rhiant: Evan Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llawfeddyg
Maes gweithgaredd: Meddygaeth
Awdur: Arthur Rocyn Jones

Ganwyd 10 Medi 1861, yn Cwmgefeile, Llandysul, Sir Aberteifi, mab Evan Thomas, amaethwr. Cafodd ei addysg feddygol yn y London Hospital; M.R.C.S. 1886, F.R.C.S. 1892. Enillodd yr Hutchinson Prize, 1890, am ei draethawd ar doriadau'r penglog. Dewiswyd ef yn llawfeddyg cynorthwyol yn y Cardiff Royal Infirmary, 1895, a'i ddyrchafu'n llawfeddyg yno wedi hynny; efe, y mae'n debyg, oedd y llawfeddyg ymgynghorol cyntaf yng Nghymru. Datblygodd dechneg eithriadol pan oedd yn gweithredu fel llawfeddyg ymarferol, ac ysgrifennodd lawer o erthyglau gwreiddiol. Ymunodd â'r Welsh Hospital yn Ne Affrica a ffurfiwyd yn ystod y rhyfel â'r Boeriaid, a daeth yn bennaeth arni; cafodd ei wneuthur yn C.B. Yn rhyfel 1914-8 bu'n gyrnol yng ngwasanaeth meddygol y fyddin a daeth yn ' Deputy-Inspector of Military Orthopaedics, Western Command.' Sefydlodd y Prince of Wales Hospital, Caerdydd, i dderbyn milwyr a morwyr a gollasai rai o aelodau eu cyrff; wedi hynny helaethwyd yr ysbyty hwnnw er mwyn iddo fedru trin cripiliaid eraill, a thrwy hynny daeth yn ysbyty orthopedig. Cafodd Lynn-Thomas ei wneuthur yn C.M.G. yn 1917, a daeth yn farchog (K.B.E.) yn 1919. Priododd, 1892, Mary Rosena, unig ferch Edward Jenkins, Caerdydd. Ymneilltuodd yn 1921 i blasty Llwyndyrus, Llechryd, Sir Aberteifi; daeth yn ddirprwy-raglaw yn Sir Aberteifi. Wedi iddo symud i Lwyndyrus dechreuodd gymryd diddordeb arbennig yn archaeoleg a chyn-hanes gwaelod dyffryn Teifi. Datblygodd syniadau gwreiddiol ynglŷn â phwysigrwydd y rhan honno o'r wlad yn hanes hynafol Cymru, a chyhoeddodd The Key of All Wales yn mynegi ei syniadau a'i olygiadau. Eithr ni allai archaeolegwyr proffesiynol dderbyn ei gasgliadau. Yr oedd yn ŵr golygus, o bersonoliaeth gref a thrawiadol. Bu farw 21 Medi 1939 yn Llwyndyrus.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.