MAB Y CLOCHYDDYN (fl. c. 1380), bardd
y dywedir mai brodor o Lanafan Fawr yn sir Frycheiniog ydoedd. Cadwyd dwy enghraifft o'i waith yn ‘Llyfr Coch Hergest’ a rhai llawysgrifau eraill, sef marwnad i Wenhwyfar ferch Madog, gwraig Hywel ap Tudur ap Gruffudd o Fôn, a dau englyn.
Llyfryddiaeth:
- Jes. Coll. MS. 1 (‘Llyfr Coch Hergest’);
- Llanst. MS. 133;
- N.L.W. MS. 4973;
- Pen. MS. 118;
- M.A. (Myv. Arch.), 1870, 338;
- Blackwell;
- J. Davies, Dictionarium Duplex;
- Em. W.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni