Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MADDOCKS (gynt THOMAS), ANN (1704-1727), ‘y Ferch o Gefn Ydfa ’; g. yn 1704 (bedyddiwyd 8 Mai), yn ferch i William Thomas o Gefn Ydfa, Llangynwyd, a'i wraig Catherine Price, Tyn-ton, Llangeinwr — chwaer i Rees Price, tad yr athronydd Richard Price [q.v.]; priodwyd hwy 30 Mawrth 1703. Bu William Thomas f. yn 1706 (claddwyd ar 14 Mai); yn ôl y chwedl am y ‘Ferch,’ yr oedd wedi rhoi Ann, ei aeres, dan awdurdod cyfreithiwr o'r enw Anthony Maddocks o Gwmrisga, a gorfododd hwnnw hi i briodi ei fab ef ei hunan. Ond nid oes air am hyn yn ewyllys William Thomas. Gwir i Ann briodi Anthony Maddocks (ieu.) ar 4 Mai 1725, ac y mae eu cytundeb priodas ar gael. Bu hi f. yn 1727 (claddwyd ar 6 Mehefin). Adroddir y ffeithiau hyn yn gywir gan T. C. Evans (‘Cadrawd’) [q.v.] yn ei Hist. of Llangynwyd; ond plethwyd iddynt chwedl na lwyddwyd i ddod o hyd i unrhyw sail iddi, fod carwriaeth rhwng Ann a'r bardd Wil Hopcyn’ (gw. Hopkin, William), iddo ganu iddi'r gân enwog ‘Bugeilio'r Gwenith Gwyn,’ ac iddi hithau farw o dor calon. Ymdriniwyd yn drwyadl â'r chwedl hon yn Y Llenor, 1927 a 1928, gan G. J. Williams — gw. hefyd ei lyfr, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 251-9.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.