MADOCKS, WILLIAM ALEXANDER (1773-1828), dyneiddiwr, yn caru'r ddrama a'r celfyddydau;
g. 17 Mehefin 1773 (yn ôl N.L.W. MS. 10590), yn drydydd mab i John Madocks o Fron Iw, sir Ddinbych (J. E. Griffith, Pedigrees, 315); aeth i Goleg Eglwys Grist yn Rhydychen (1700), ac yn 1794 etholwyd ef yn gymrawd o Goleg All Souls. Bu'n aelod seneddol Radicalaidd dros Boston, 1802-18, a Chippenham, 1820-6. Bu'n byw yn Nolmelynllyn, ger Dolgellau, a darllenodd yn Tours Thomas Pennant [q.v.] am gynllun Syr John Wynn o Wydir [q.v.] i gau'r Traeth Mawr, rhwng Aberglaslyn a'r môr. Etifeddodd gyfoeth mawr ar ôl ei dad, ac yn 1798 prynodd stad Tanrallt, Penmorfa. Caeodd tua 1,000 acer o'r Traeth Mawr, ac adeiladodd Dremadog; cafodd ddeddf yn 1807 i adeiladu cob ar draws y Traeth i gau 3,000 acer yn chwaneg. Gwnaeth ffordd ar hyd-ddo i gysylltu Llundain a Phortinllaen; cawsai ddeddf yn 1806 i wneud Portinllaen yn borthladd, ond methodd gael ei wneud yn orsaf i'r llongau post i Ddulyn. Arfaethodd wneud ffordd ferrach i Lundain drwy Ddolgellau a'r Trallwng a Chaerwrangon. Yn 1821 cafodd ddeddf i wneud porthladd ymhen y cob, a dyna gychwyn Porthmadog. Ceisiodd gael ffordd haearn ar hyd y cob i gario llechi o Ffestiniog i Borthmadog, a chyflawnodd Samuel Holland [q.v.] ei fwriad yn 1831. Ond aeth yn ôl yn y byd; bu raid iddo encilio i Ffrainc, a bu f. ym Mharis fis Medi 1828. Yr oedd wedi priodi (1818) ŵyres i Joseph Harris [q.v.] o Drefeca, ac aeres Thomas Harris [q.v.].
Llyfryddiaeth:
- Walter Davies, Agriculture of N. Wales, 1813;
- D.N.B.;
- Edward Davies, Hanes Porthmadog, 1913;
- N.L.W. MS. 10590;
- Cylch. Cymd. Hanes M.C., xxiii, 118-23 (gan D. R. Hughes).
Awdur:
David Thomas, O.B.E., M.A., (1880-1967), Bangor