Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MADOG ap GRUFFYDD (bu f. 1236), arglwydd Powys; mab hŷn Gruffydd Maelor I [q.v.] ac Angharad, ferch Owen Gwynedd [q.v.]. Ynghyd â'i frawd Owen, dilynodd Gruffydd Maelor yn 1191, a phan fu Owen f. yn 1197 daeth yn unig reolwr Powys i'r gogledd o afonydd Rhaeadr a Thanat. O hyn ymlaen daeth y wlad hon — a gynhwysai Maelor Gymraeg a Maelor Saesneg, Iâl, Cynllaith, Nanheudwy, a rhan o Mochnant — i'w galw yn Powys Fadog o'i chyferbynnu â Phowys Wenwynwyn (gw. dan Gwenwynwyn). Ar y cyntaf yr oedd Madog yn gyfeillgar â Llywelyn I, eithr troes ei gefn ar ei gefnder pan oedd ffawd hwnnw yn bur isel yn 1211. Parhaodd i gadw draw wedi i Lywelyn ailffurfio'r gynghreiriaeth Gymreig yn 1212 ac ystyrid ef fel un o gynghreiriaid cydnabyddedig y brenin John, yn derbyn tâl ganddo. Erbyn 1215, fodd bynnag, fe'i ceir yn gadarn o blaid Llywelyn a pharhaodd felly hyd y diwedd. Wedi ei farw ef yn 1236, amharwyd ar undod Powys Fadog gan y rhannu a fu cydrhwng ei bum mab — Gruffydd Maelor II [q.v.], Gruffydd Iâl, Maredudd, Howel, a Madog Fychan. Claddwyd ef yn abaty Glyn y Groes, a sefydlasai ef ei hun — mynachlog ddiwethaf Urdd y Sistersiaid yng Nghymru.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Atodiadau a chywiriadau:

MADOG ap GRUFFYDD (Bywg., 571) Dilëer (q.v.) ar ôl Gruffydd Maelor II.