MADOG ap GWALLTER , ‘Y Brawd ,’ bardd crefyddol.
Nid oes sicrwydd am ei ddyddiadau, ond y mae'n debyg mai ail hanner y 13eg g. oedd ei gyfnod, er nad yw'n amhosibl ei fod ychydig yn ddiweddarach. Ef oedd awdur y gerdd swynol ar enedigaeth Crist: ‘Mab an rhodded, mab mad aned, dan ei freiniau,’ y gellir ei hystyried y garol Nadolig hynaf yn yr iaith Gymraeg sydd ar gael. Ceir awdl o'i waith hefyd i Dduw, a chyfres o englynion i Fihangel. Y mae arddull ei holl waith, ac yn arbennig felly ei gân i'r Geni, yn symlach a mwy cartrefol ei ffigurau nag sydd yn gyffredin gan y Gogynfeirdd, ac y mae ôl myfyrdod ddisgybledig ddiwinyddol ar ei awdl i Dduw. Gwyddom fod y Brodyr Llwydion yng Nghymru erbyn 1237, oblegid fe godwyd tŷ iddynt yn Llanfaes yn y flwyddyn honno gan Lywelyn Fawr. Fe geir holl awyrgylch a ffresni'r meddwl Ffransiscaidd cynnar yng ngwaith Madog ap Gwallter, ac y mae'n dra thebyg ei fod yn perthyn i Urdd Sant Ffransis. Dengys ei englynion i Fihangel ei fod yn enedigol o ryw Lanfihangel. Ceir gwaith Madog ap Gwallter yn y Myv. Arch., 273-5; a'i ganu i Dduw, ac i'r Geni, yn Llyfr Coch Hergest, 1151-4. Nid oes dim o'i waith yn llawysgrif Hendregadredd.
Yn llawysgrif Caerdydd 2.611, sydd i'w dyddio yn niwedd y 13eg g. neu ddechrau'r 14eg., ac sy'n cynnwys testun Lladin o'r ‘Dares’ a Brut Sieffre, fe geir 26 llinell o farddoniaeth Ladin lle sonnir am hen wrhydri brenhinoedd y Brythoniaid, a bod Sieffre wedi cyfieithu eu cerddi mawl. Fe'i geilw'r awdur ei hun yn ‘Frater Walensis madocus edeirnianensis.’ Deil Syr Ifor Williams (B.B.C.S., cyf. iv, rhan ii, 133-4) ei bod yn debygol mai'r un bardd ydyw hwn â'r ‘Brawd Fadawg ap Gwallter,’ ac os felly, yr oedd yn hanfod o Lanfihangel Glyn Myfyr, plwyf a gamgysylltir ag Edeirnion hyd yn oed yn 1254, serch mai i Ddinmael y perthyn mewn gwirionedd (gw. Owen, Pembrokeshire, iv, 513, nodyn 1).
Llyfryddiaeth:
- Ynghyd â'r ffynonellau uchod, gw. Henry Lewis, Hen Gerddi Cref., a'r Y Tyst, 25 Rhagfyr 1947.
Awdur:
David Myrddin Lloyd, M.A., (1909-81), Aberystwyth / Yr Alban