Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MADOG ap LLYWELYN , gwrthryfelwr 1294 .

Dangoswyd yn bendant mai mab ydoedd i Lywelyn ap Maredudd , arglwydd-ddeiliad olaf Meirionnydd , y gŵr y cymerwyd ei dreftadaeth oddi arno am iddo wrthwynebu Llywelyn II yn 1256 (gw. Llywelyn Fawr a Llywelyn Fychan , arglwyddi Meirionnydd ) . Trigai Llywelyn yn Lloegr — yn un o bensiynwyr y brenin ; wedi ei farw yn 1263 parhaodd ei fab, Madog , mewn ffafr yn llys y brenin . Yn ystod 1277 gwnaethpwyd iddo ddwy ‘rodd’ fawr o arian o ‘wardrob’ y brenin, ac yr oedd ei hawl i Feirionnydd yn cael ei chydnabod, serch nad ar goedd, gan y Goron ; yn 1278 daeth â chyngaws yn erbyn Llywelyn II gerbron ustusiaid y brenin gyda'r amcan o gael ailfeddiant o'r cantref. Ar ôl 1282 ymddengys iddo ddychwelyd i Gymru a chael rhoddi iddo diroedd ym Môn . Oblegid ei berthynas â hen deulu brenhinol Aberffraw (yr oedd yn gâr yn y bumed radd i Lywelyn II ) teimlodd ei fod yn cael ei ysbrydoli i gymryd arno'i hun ran arweinydd gwladgarol . Yn 1294 , pan oedd pobl Cymru yn cael gwasgu arnynt gan gyfuniad o achwyniadau a phan godasant yn erbyn eu gorthrymwyr, fe'i gwnaeth Madog ei hun yn arweinydd i'r rhai a oedd yn codi yng Ngogledd Cymru , gan hawlio ei fod yn ‘ Dywysog Cymru .’ Dechreuodd pethau yn dda o blaid y gwrthryfelwyr , ac yn ystod gaeaf 1294-5 bu raid i'r brenin Edward a'i wŷr eu hamddiffyn eu hunain yng nghyffiniau Conwy . Ym mis Mawrth, fodd bynnag, aeth Madog â llu i sir Drefaldwyn ; yno daeth iarll Warwick ar ei warthaf yn sydyn a'i orchfygu ef a'i wŷr a pheri colledion trwm iddynt ym Maes Meidog (neu Moydog ), yng Nghaereinion . Llwyddodd Madog i ffoi i fynyddoedd Eryri lle y bu'n ffoadur hyd nes y bu raid iddo ymostwng, yn ddiamod, i John de Havering yn niwedd mis Gorffennaf neu ddechrau mis Awst 1295 . Cymerwyd ef i Lundain , ac er na chafodd ei ddienyddio ni wyddys beth a ddaeth ohono.

Ffynonellau:

  • J. E. Morris , The Welsh Wars of Edward I a contribution to mediaeval military history, based on original documents , Rhydychen, 1901 ;
  • J. Goronwy Edwards yn English Historical Review , xxxix, xlvi;
  • Bulletin of the Board of Celtic Studies , xiii, 4;
  • J. Griffiths , ‘Revolt of 1294’ (thesis anghyhoeddedig, Prifysgol Lerpwl).

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54