MADOG ap MAREDUDD (bu farw 1160), brenin Powys

Enw: Madog ap Maredudd
Dyddiad marw: 1160
Priod: Susanna ferch Gruffydd ap Cynan
Plentyn: Gwenllian ferch Madog ap Maredudd
Plentyn: Margaret ferch Madog ap Maredudd
Plentyn: Gruffydd ap Madog
Plentyn: Owain Fychan ap Madog ap Maredudd
Plentyn: Owain Brogyntyn
Plentyn: Cynric Efell
Plentyn: Llywelyn ap Madog
Rhiant: Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Powys
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Mab Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn. Efe oedd yr olaf o'i linach i reoli fel brenin dros Bowys gyfan, gan gynnwys arglwyddiaeth (Fitzalan) Croesoswallt (gweler Owain Brogyntyn). Wedi iddo ddilyn ei dad yn 1132, y ddyletswydd a ystyriai ef yn fwyaf ei phwysigrwydd, yn enwedig rhwng y blynyddoedd 1149 a 1157 oedd amddiffyn Powys yn erbyn gormes Owain Gwynedd. Gan ei fod yn cael ei fygwth gan adeiladu castell Tomen-y-Rhodwydd ym mhen deheuol Dyffryn Clwyd, heriodd Madog, mewn cynghrair â Ranulf, iarll Caer, nesâd Owain tuag ato, eithr ni lwyddodd yr her, a chollodd Madog, am beth amser, lywodraeth ar ei diroedd yn Iâl.

Daeth tro ar fyd yn hyn o beth, fodd bynnag, yn 1157 pan wnaeth Harri II, gyda chymorth Madog, ddatganiad pendant o'i awdurdod fel brenin yng Ngogledd Cymru. Hyd ei farwolaeth dair blynedd yn ddiweddarach yr oedd Madog yn parhau i fod ar delerau cyfeillgar â'i gynorthwywr pwerus yng Ngogledd Cymru. Canwyd ei glodydd gan feirdd pennaf ei oes; ceir hefyd mewn rhamantau prôs cyfoes adlewyrchiad o'i ddylanwad ar ganolbarth Cymru. Claddwyd ef ym mam-eglwys Powys - eglwys Tysilio ym Meifod. Ei wraig oedd Susanna, ferch Gruffydd ap Cynan.

Rhannwyd ei diroedd cydrhwng nifer o is-arglwyddi Powys -meibion a neiaint iddo - ac ni bu iddynt byth mwy gael eu haduno yn nwylo un rheolwr. Aam ei etifeddion gweler Gruffydd Maelor I, Owain Fychan, Owain Brogyntyn, ac Owain Cyfeiliog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.