Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MADOG DWYGRAIG (fl. c. 1370), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd. Cadwyd llawer o'i farddoniaeth yn Llyfr Coch Hergest a rhai llawysgrifau eraill. Yn ei phlith ceir awdlau crefyddol a dychan, a hefyd awdlau i Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynys Dawy, Gruffudd ap Madog o Lechwedd Ystrad, a Morgan Dafydd ap Llywarch o Ystrad Tywi. Casglwyd rhai ohonynt yn y Myv. Arch.

Llyfryddiaeth:

  • Jones a Lewis, Mynegai;
  • N.L.W. MS. 4973;
  • M.A. (Myv. Arch.), 1870, 321-7;
  • Cymru (O.J.).

Awdur:

Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni