Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MADOG FYCHAN ap MADOG ap GRUFFYDD (bu f. 1269 );

ŵyr Gruffydd Maelor I [q.v.] a brawd Gruffydd Maelor II (q.v.) . Pan fu ei dad f. yn 1236 ymunodd Madog Fychan yn y rhannu a ddilynodd ar Powys Fadog . Yr oedd ei osgo ef ar broblemau gwleidyddol mawr y cyfnod yn gyffelyb i eiddo Gruffydd Maelor I . Yn 1245 ceir ef ymhlith cynghreiriaid Dafydd II ; yn 1258 yr oedd ar ochr Llywelyn II . Nid oedd y ffaith i'w ymrwymiad ar ran Tudur ab Ednyfed gael ei dderbyn gan Harri III yn 1246 yn gwneud cyffelyb ymrwymiad yn llai derbyniol yng ngolwg Llywelyn ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Bu f. fis Rhagfyr 1269 ac efallai ei gladdu yn abaty Glyn y Groes (‘ Valle Crucis ’), tŷ yr oedd yn noddwr iddo.

Ffynonellau:

  • A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest ;
  • Littere Wallie , 1940 .

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth

Blwyddyn Cyhoeddi: 1953-54