MAELGWN ab OWAIN GWYNEDD
(bu f. ar ôl
1173
),
mab
Owain Gwynedd
a
Gwladus
ferch
Llywarch ap Trahaearn
, brawd unfam i
Iorwerth Drwyndwn
[q.v.]
ac ewythr
Llywelyn
I
. Pan rannwyd y tiroedd y teyrnasai ei dad drostynt rhoddwyd
Môn
i
Faelgwn
, eithr gyrrwyd ef allan o'r ynys yn
1173
gan ei hannerbrawd,
Dafydd
I
. Ffodd i
Iwerddon
, dychwelodd yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, a chymerwyd ef yn garcharor. Ni wyddys mo'i hanes wedi hynny.
Ffynonellau:
-
A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth