Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MAELGWN ap RHYS (c.1170-1230), arglwydd Ceredigion; mab yr arglwydd Rhys a Gwenllian, ferch Madog ap Maredudd. Ymddengys am y tro cyntaf yng ngwarchae Dinbych-y-pysgod yn 1187; cymerth arno arwydd y groes pan fu Gerallt Gymro yn teithio trwy Gymru yn 1188. Un byr o gorffolaeth ydoedd, terfysglyd ac ymladdgar, a pharodd ei ymarweddiad gryn ofid i'w dad yn ei flynyddoedd olaf. Yr oedd yn garcharor o 1189 hyd 1194 ac yn alltud pan fu Rhys f. yn 1197. Dychwelodd gan benderfynu cael cyfran o diroedd y teulu a thrwy hynny parodd lawer o helynt ac anesmwythyd i'w frawd Gruffydd, ei elyn mwyaf ffyrnig, ac ar ôl 1201, pan fu Gruffydd f., i'w neiaint, Rhys ac Owain. Trwy ymgynghreirio â Gwenwynwyn a'r brenin John cafodd, yn 1199, arglwyddiaeth Ceredigion, eithr cymerwyd y cymydau gogleddol oddi arno gan Lywelyn yn 1207. Ei fethiant i adennill y tir hwn wedi iddo helpu John i ennill buddugoliaeth ar Lywelyn yn 1211 a barodd iddo, y mae'n fwy na thebyg, fynd drosodd ac ymuno â phlaid Llywelyn. Gwelir, fodd bynnag, nad oedd cred Llywelyn ynddo ddim yn ddiysgog oblegid pan aethpwyd i rannu tiroedd yr arglwydd Rhys o dan nawdd Llywelyn yn 1216 cadwyd Maelgwn allan o'r holl diroedd uwchlaw afon Aeron. Bu f. yn Llannerch Aeron yn 1230; claddwyd ef yn Ystrad Fflur; a dilynwyd ef gan ei fab, Maelgwn Fychan.

Llyfryddiaeth:

  • Hist. W.

Awdur:

Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth