MAELGWN ap RHYS (bu f. 1295), gwrthryfelwr (yn 1294);
mab Rhys Fychan, arglwydd olaf Genau'r Glyn yng ngogledd sir Aberteifi, a disgynnydd Maelgwn [q.v.] ap Rhys ap Gruffydd [q.v.]. Yn 1294, pan dorrodd gwrthryfel (o dan arweiniad Madog ap Llywelyn [q.v.] yng Ngogledd Cymru a Morgan ap Rhys [q.v.] ym Morgannwg) yn erbyn llywodraeth estron, fe'i gwnaeth Maelgwn ei hun yn arweinydd y gwrthryfelwyr yn sir Aberteifi. Yn ystod yr ymgyrch yng ngorllewin Cymru bu gwarchae caled, eithr aflwyddiannus, ar gastell Llanbadarn (Aberystwyth) a chyrchoedd trymion i siroedd Caerfyrddin a Phenfro. Lladdwyd Maelgwn gan wŷr iarll Gloucester pan oedd yn ymladd gerllaw Caerfyrddin. Delid ei frodyr, Rhys a Gruffydd, yng ngharchar y brenin yn Norwich mor ddiweddar â 1308.
Llyfryddiaeth:
- J. E. Morris, Welsh Wars of Edward I;
- Bridgeman, Princes of S. Wales.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964), Aberystwyth