Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



MALKIN, BENJAMIN HEATH (1769-1842), llenor a hynafiaethydd; g. (yn ôl carreg ei fedd) 23 Mawrth 1769, yn Llundain. Adroddir ei yrfa gyffredinol yn y D.N.B.: graddiodd yn y ddwy hen brifysgol (D.C.L., Rhydychen, 1810). Bu'n brifathro ysgol ramadeg Bury S. Edmund's, 1809-28, ac yn athro hanes ym Mhrifysgol Llundain yn 1830; yr oedd yn F.S.A.; cyhoeddodd amryw lyfrau. Trown at ei gyswllt â Chymru. Merch oedd ei wraig, Charlotte, i'r Parch. Thomas Williams, B.D., o Lanbleiddian, prifathro ysgol ramadeg y Bont-faen a churad eglwys y dref. Teithiodd Malkin drwy ddeheudir Cymru (1803), a chyhoeddodd, 1804, lyfr sy'n llawer mwy adnabyddus yn ei ail argraffiad (dwy gyfrol, 1807), The Scenery, Antiquities, and Biography of South Wales. Dyma'r gorau, o ddigon, o'r hen lyfrau teithio ar y deheudir; ei sylwadaeth yn graff a diddorol, ei naws ar y cyfan yn garedig, ei wybodaeth o hanes Cymru (ac i raddau, o'i llenyddiaeth) yn sylweddol. Gwnâi Malkin ei gartref, o tua 1830, yn yr ‘Old Hall,’ yn y Bont-faen. Ymddiddorai ym mywyd Morgannwg. Sefydlodd gymdeithas, ‘The Society for the improvement of the working population in the County of Glamorgan,’ ac yntau'n llywydd ac ysgrifennydd; golygodd y gyfres o 12 o'i phamffledau (rhestr yn Cardiff Catalogue, 452-3); cyhoeddodd hefyd ar wahân, 1831, ddarlith a draddododd i'r gymdeithas. Bu f. yn y Bontfaen 26 Mai 1842; y mae arysgrif goffa iddo ef a'i wraig yn yr eglwys yno. Bu ei fab, Syr BENJAMIN MALKIN (a fu f. o'i flaen, yn 1837), yn farnwr yn Calcutta; yr oedd yn gyfaill i Macaulay.

Llyfryddiaeth:

  • Hopkin-James, Old Cowbridge;
  • a'r cyfeiriadau a roddwyd uchod.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.