Etholwyd Bussy yn aelod seneddol dros sir Forgannwg yn 1679 (ddwywaith), 1689, 1690, 1695, a 1698. Priodasai, 17 Ebrill 1646, Catherine, merch Hugh Perry a gweddw Syr Edward Stradling, castell S. Dunawd, Morgannwg (er nad ydyw'r tablau achau arferol yn cyfeirio at ail briodas y mae tystiolaeth i hynny ar gael; gw. isod).
Y mae rhai llythyrau a ysgrifennwyd gan Bussy neu ato yng nghadw yng nghasgliad Penrice a Margam (yn Ll.G.C.); dyma'r cyfeiriadau: L 104a a b, 126, 149, 190, 206, 224, 228-9, 232-5, 238, 240-2, 244, 260, 263, 293-5. Yn L 104 (14 a 15 Chwefror 1669/70) ceir cyfeiriad at weithio gwaith glo. Dengys L 149 fod Bussy erbyn hyn (5 Mai 1678) yn briod yr ail waith — y mae'n ysgrifennu at ei wraig Anne, yn Henllys, yn gofyn iddi dalu £62 1s. 6d. i Syr Edward Mansel, ‘Sir Edward haveing allready disbursed soe much for me to my souldiers.’ Llythyr ato ynglŷn â choed a werthwyd gan Syr Humphrey Mackworth ydyw L 190 (16 Awst 1687). Cyfeiria L 224 (5 Ebrill 1691) at godi gwŷr at wasanaeth y llynges — hwn, fel amryw o'r llythyrau, wedi ei ysgrifennu at Syr Edward Mansel, dirprwylyngesydd De Cymru. Mewn llythyrau eraill rhydd Bussy newyddion o'r Senedd ac o Lundain.
Bu Bussy Mansel f. yn 1699 (y mae ei ewyllys wedi ei dyddio 30 Mawrth 1699). Ei aer oedd ei ŵyr, THOMAS MANSEL (Clark, Cartae, vi, 2250), a ddilynwyd, yn 1706, fel perchennog stad Briton Ferry gan BUSSY, 4ydd barwn Mansel; dyma'r Bussy a briododd Lady Barbara, merch William, 3ydd iarll Jersey.
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth
Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor