MANSEL, WILLIAM LORT (1753-1820), pennaeth Coleg y Drindod, Caergrawnt, ac esgob Bryste;
g. 2 Ebrill 1753. Adroddir ei hanes yn y D.N.B. Aeth i Goleg y Drindod ddechrau 1770; graddiodd yn 1774 (D.D. yn 1798); etholwyd ef yn gymrawd yn 1775; bu'n athro'r clasuron yn y coleg; ac etholwyd ef yn bennaeth (‘Master’) yn 1798, gan Pitt. Yn 1808 penodwyd ef yn esgob Bryste — ni welai'r oes honno unrhyw fai arno am ddal y ddwy swydd ynghyd. Bu f. 27 Mehefin 1820. Yr oedd yn ysgolhaig da, ond efallai'n hynotach am ei ffraethineb a'i allu i lunio epigramau a dychangerddi. Pan ddyrchafwyd ef yn ben ar ei goleg, yr oedd hi'n ddrwg rhwng y cymrodyr yn herwydd gwahaniaethau politicaidd cyfnod y Chwyldro Ffrengig a'r rhyfel; ond bu Mansel yn hynod ddoeth wrth y llyw — gw. G. M. Trevelyan, Trinity College, 81-3. Eithr â'i gysylltiadau Cymreig y mae a fynnom ni yma. Ganwyd ef yn nhref Penfro; ei dad oedd William Wogan Mansel. Nid yw'n glir beth oedd perthynas y teulu â Mawnseliaid Margam neu Fotlysgwm ar y naill law, nac â Woganiaid Dyfed ar y llall; ond gwyddys i'r ddwy gainc o'r Mawnseliaid ymbriodi o dro i dro â Woganiaid Cas Gwis ('Wiston’) a Boulston. Mam W. L. Mansel oedd Anne Lort, merch i'r Roger Lort o Prickaston a fu f. yn 1745 a chwaer i'r athro Michael Lort (gw. dan ‘Lort’).
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor.